Mae gadael eich cartref a symud i gartref gofal preswyl yn gam mawr iawn i unrhyw un. Yn yr un modd ag unrhyw benderfyniad pwysig, mae angen ei ystyried yn ofalus ac ni ddylech ruthro.

Mae dewisiadau eraill ar gael i chi, e.e. Byw'n Annibynnol (aros gartref gyda chymorth) neu symud i lety â chymorth neu lety gwarchod.

Fodd bynnag, ar ôl ystyried yn ofalus, fe allech chi a'ch teulu benderfynu mai gofal preswyl yw'r ffordd orau o fodloni eich anghenion gofal. Mae'n bwysig dewis cartref gofal a fydd yn bodloni eich anghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol, yn awr ac yn y dyfodol, ac y byddwch yn teimlo'n gyfforddus yn byw yno.

Mae pob cartref gofal preswyl yn cynnig gofal personol i bobl nad ydynt yn gallu byw gartref mwyach, hyd yn oed gyda chymorth.

Mae cartrefi nyrsio yn darparu gofal nyrsio yn ogystal â gofal personol ac mae'n rhaid iddynt sicrhau bod staff nyrsio cymwysedig ar ddyletswydd bob amser.

Os nad ydych yn derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd, cysylltwch â ni.

Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion)