Pam cael Mynegai?
Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol gadw Cofrestr o Blant Anabl yn eu hardal. Yn Nhorfaen mae'n well gennym ei alw'n Fynegai. Mae'n ein helpu i gynllunio gwasanaethau a darparu gwybodaeth berthnasol i Rieni, Gofalwyr, Plant a Phobl Ifanc.
Mae'r Mynegai yn wirfoddol - gall plant a'u Rhieni/Gofalwyr ddewis a ydyn nhw am gael eu cynnwys ar y Mynegai.
Pam ddylwn i roi fy mhlentyn ar y Mynegai?
- Helpu i gynllunio Gwasanaethau i Blant / Pobl Ifanc yn y dyfodol yn fwy effeithiol.
- Darparu gwybodaeth ystadegol i'r Llywodraeth.
- Gweithredu fel porth i'r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid ofyn barn blant, pobl ifanc a'u teuluoedd a beth maen nhw eisiau (trwy ymgynghoriadau gwirfoddol).
I bwy mae’r mynegai?
Plant neu bobl ifanc, o dan 18 oed, sydd ag anabledd sy'n cael effaith amlwg ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys plant ag:
- Anhwylder ar y sbectrwm awtistig
- Anawsterau ymddygiadol / cymdeithasol / emosiynol
- Salwch Cronig, Salwch sy'n Bygwth Bywyd neu Salwch Difrifol
- Cyflwr meddygol
- Anabledd corfforol
- Nam synhwyraidd
- Anabledd / anhawster dysgu
- Anableddau lluosog
Nid yw’r Mynegai yn
- gysylltiedig ag unrhyw Gofrestr arall - nid oes cysylltiad rhwng y Mynegai a'r Gofrestr Amddiffyn Plant;
- amod ar gyfer derbyn gwasanaethau - nid oes rhaid i chi fod ar y Mynegai i dderbyn gwasanaethau gennym ni;
- atgyfeiriad i Wasanaethau Cymdeithasol; nac
- ar gael i unrhyw un sy’n holi - mae manylion ar y mynegai yn gwbl gyfrinachol ac ni rennir y wybodaeth gydag unrhyw asiantaethau eraill heblaw y rhoddir caniatâd.
Gallwch ychwanegu manylion eich plentyn i’r Mynegai (yn agor mewn tab newydd) yma.