Siarter Gwent ar gyfer Gweithio Gyda'n Gilydd

Cynhyrchwyd Siarter Gwent gan bobl ag anableddau dysgu o bob rhan o Went. Cefnogwyd y gwaith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Rydym yn datblygu cynllun gweithredu ar sail pob un o feysydd y Siarter er mwyn cyflawni'r canlyniadau y mae pobl yn dweud wrthym eu bod yn eu gwerthfawrogi.

Mae Siarter Gwent yn disodli Strategaeth Anabledd Dysgu Gwent 2012 i 2017.

Diwrnod Da

Cyd-gynhyrchwyd adroddiad Diwrnod Da gan bobl ag anableddau dysgu, gofalwyr, rhieni a staff er mwyn ail-ddylunio Cyfleoedd Dydd yn Nhorfaen.

Mae'r adroddiad yn cynnwys syniadau a chynllun gweithredu ar gyfer newid yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarganfuwyd yn sgil ymchwil y tîm.

Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion)