Mae'r rhan hon o'r wefan yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â chaniatâd i gynnig unrhyw nwyddau (gan gynnwys bwyd) ar werth i'r cyhoedd o leoliad sefydlog e.e. stondin neu gerbyd, ac mae'n cynnwys arwerthiannau cist car, marchnadoedd a gosod cerbydau i'w gwerthu ar ochr y ffordd.

Rheolau Masnachu ar y Stryd yn Nhorfaen

Ar 30 Mehefin 2009, cytunodd y cyngor i ddiwygio'r rheolaeth ar fasnachu ar y stryd ym mwrdeistref Torfaen er mwyn dynodi'r holl strydoedd yn strydoedd caniatâd, heblaw'r rhai a ddynodwyd yn strydoedd gwaharddedig. Daeth y penderfyniad hwn i rym ar 10 Awst 2009.

Mae hyn yn golygu na allwch gynnig unrhyw nwyddau i'w gwerthu ar stryd waharddedig o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'n rhaid i chi gael caniatâd cyn y gallwch gynnig unrhyw nwyddau i'w gwerthu ar unrhyw stryd arall. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallech gael eich erlyn yn droseddol. Gellir cael caniatâd gan Is-adran Drwyddedu Torfaen.

Er mwyn eich helpu i ddeall y darpariaethau ynghylch masnachu ar y stryd, gweler y polisi cymeradwy Polisi Gweithredu ar gyfer Masnachu ar y Stryd (yn agor mewn tab newydd).

I gael mwy o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01633 647284/647286.

Diffiniadau a bennir gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Masnachu ar y Stryd: ystyr hyn yw gwerthu neu amlygu neu gynnig unrhyw eitem i'w gwerthu (gan gynnwys peth byw) ar stryd.

Stryd: caiff stryd ei diffinio fel "Unrhyw ffordd, troedffordd, traeth neu ardal arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt yn ddi-dâl, ac ardaloedd gwasanaeth fel y'u diffinnir o dan Adran 329 Deddf Priffyrdd 1980".

Stryd Waharddedig: lle y caiff masnachu ei wahardd yn llwyr.

Stryd Ganiatâd: lle y mae angen caniatâd cyn y gellir masnachu.

Gwneud Cais am Drwydded

Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych chi'n masnachu ar y stryd, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd masnachu ar y stryd arnoch.

Dylid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (gan gynnwys ar ffurf electronig) i'ch cyngor lleol, neu'r cyngor lleol ar gyfer yr ardal lle'r ydych yn dymuno masnachu.

Mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol, gan gynnwys manylion y stryd y dymunwch fasnachu arni, a'r diwrnodau a'r amseroedd pryd rydych chi'n dymuno masnachu.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu dau lun ohonoch chi'ch hun.

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded.

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'n rhaid eich bod chi dros 17 oed i gael trwydded. Gwrthodir rhoi trwyddedau os bydd unrhyw rai o'r rhesymau canlynol yn bodoli:

  • nid oes digon o le yn y stryd lle'r ydych yn dymuno masnachu, heb achosi ymyrraeth neu anghyfleustra i ddefnyddwyr y stryd
  • eich bod yn dymuno masnachu am lai o ddiwrnodau na nifer y diwrnodau masnachu gofynnol
  • eich bod yn anaddas i gael trwydded oherwydd unrhyw euogfarnau blaenorol neu resymau eraill
  • eich bod yn y gorffennol wedi methu â thalu'r ffïoedd a oedd yn ddyledus ar gyfer trwydded arall i fasnachu ar y stryd neu wedi methu â defnyddio trwydded flaenorol i fasnachu ar y stryd

Proses Gwerthuso Cais

O dan rai amgylchiadau, os yw rhesymau penodol dros wrthod yn bodoli, gallai'r cyngor benderfynu o hyd i gyflwyno trwydded ond ar gyfer llai o ddiwrnodau nag y gofynnwyd amdanynt, neu ganiatáu masnachu eitemau penodol yn unig.

Bydd y cyngor naill ai'n cymeradwyo'r cais neu'n cyflwyno hysbysiad i chi o fewn cyfnod rhesymol.

Bydd y cyngor yn cyflwyno hysbysiad os yw'n bwriadu gwrthod y cais, ei ganiatáu gyda thelerau sy'n wahanol i'r telerau y gwnaed cais amdanynt, cyfyngu'r masnachu i fan penodol ar y stryd, amrywio amodau trwydded neu ddiddymu trwydded. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at Bolisi Gweithredu ar gyfer Masnachu ar y Stryd (yn agor mewn tab newydd) a strwythur Ffïoedd Trwyddedu y cyngor.

Bydd yr hysbysiad yn cynnwys manylion am resymau'r cyngor dros eu penderfyniad ac yn datgan eich bod, o fewn saith diwrnod o'r hysbysiad, yn gallu gwneud cais ysgrifenedig am gyfle i gyflwyno sylwadau.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais i fasnachu ar y stryd

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor, cewch gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysu o'r penderfyniad.

Cewch apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Ynadon yn Llys y Goron yn lleol.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor, cewch gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cawsoch eich hysbysu o'r penderfyniad.

Cewch apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Ynadon yn Llys y Goron yn lleol.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.