Crynodeb o'r drwydded
I weithredu pont bwyso gyhoeddus, bydd angen tystysgrif cymhwysedd arnoch a gyflwynir gan y Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau ar gyfer eich awdurdod lleol.
Meini Prawf Cymhwysedd
Mae'n rhaid bod gennych ddigon o wybodaeth i allu cyflawni eich dyletswyddau'n briodol.
Sylwer: Nid oes modd trosglwyddo tystysgrifau cymhwysedd i unigolyn arall a byddant yn ddilys dim ond ar gyfer y bont bwyso y cafodd yr ymgeisydd brawf yn ei chylch.
Crynodeb o'r Rheoliad
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r dystysgrif hon (yn agor mewn tab newydd)
Proses Gwerthuso Cais
Nid oes darpariaeth mewn deddfwriaeth.
Bydd yr Awdurdod yn gwerthuso gwybodaeth a pherfformiad yr ymgeisydd trwy gyfuniad o weithdrefn holi ac ateb ar lafar ynghyd â phrofion ymarferol ar yr offer dan sylw.
A fydd Caniatâd Dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r awdurdod.
Gwneud cais ar-lein
I wneud cais am dystysgrif gweithredwr pont bwyso gyhoeddus, cysylltwch â'r Awdurdod Lleol, gan roi eich enw llawn, cyfeiriad y busnes lle mae'r bont bwyso a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt.
Yna gwneir trefniadau i'r ymgeisydd sefyll prawf anffurfiol. Bydd Tystystgrif Gweithredwr Pont Bwyso Gyhoeddus yn cael ei chyflwyno i ymgeiswyr llwyddiannus.
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Cewch gysylltu â'r Swyddfa Fesur Wladol os gwrthodir eich cais.
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.