I redeg busnes lle y caiff petrol ei storio i'w ddosbarthu'n uniongyrchol i danc tanwydd peiriant tanio mewnol - neu lle y caiff swm sylweddol o betrol ei storio at ddefnydd preifat - bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod trwyddedu petrolewm lleol.

Mae petrolewm yn golygu unrhyw gynnyrch petrolewm crai sydd â phwynt tanio islaw 21°C. Mae hyn yn cynnwys petrol, bensen, pentân ac unrhyw gymysgedd sy'n cynnwys y cynhyrchion hyn ac sydd â phwynt tanio islaw 21°C. Nid yw'r diffiniad yn cynnwys gwirod gwyn, paraffîn, olew diesel neu olew tanwydd.

Caiff safleoedd sydd wedi'u trwyddedu i storio petrolewm eu harchwilio i sicrhau bod y safleoedd sy'n storio a dosbarthu petrol yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel, nad yw'n peri risg i'r cyhoedd na'r amgylchedd. Mae ein swyddogion yn archwilio cyflwr y cwrt blaen, gan sicrhau'n benodol nad oes gollyngiadau a bod rhagofalon tân (gan gynnwys offer addas) wedi'u sefydlu. Bydd cofnodion y safle'n cael eu harchwilio i gadarnhau bod tanciau storio'n cael eu monitro'n rheolaidd ac y dilynir gweithdrefnau iechyd a diogelwch.

Os oes angen i chi drwyddedu safle ar gyfer storio petrolewm neu newid manylion trwydded gyfredol, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i'w cael yn y fan hon.

Os ydych yn pryderu am fusnes neu safle arall yr ydych yn tybio bod angen trwydded arno ond sydd heb drwydded, neu sydd wedi'i drwyddedu ond heb gael ei gynnal yn gywir, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.

Gwneud Cais am Drwydded

Crynodeb o'r Drwydded

I redeg busnes lle y caiff petrol ei storio i'w ddosbarthu'n uniongyrchol i danc tanwydd peiriant tanio mewnol - neu lle y caiff swm sylweddol o betrol ei storio at ddefnydd preifat - bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod trwyddedu petrolewm lleol.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Deddf Petrolewm (Cydgrynhoad) 1928 (fel y'i diwygiwyd gan DSEAR) (yn agor mewn tab newydd)

Mae arweiniad ar ddiogelwch petrolewm ar gael oddi wrth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yn agor mewn tab newydd)

Sut i wneud cais

Os ydych am gael neu adnewyddu Trwydded Petrolewm neu i newid manylion trwydded bresennol, lawrlwytho copi o'r cais am drwydded i gadw ysbryd petrolewm / cymysgeddau (yn agor mewn tab newydd) ffurflen yma.

Mae'r amodau trwyddedu ynghlwm ar ffurf nodiadau ar ddiwedd y ffurflen gais.

Ffïoedd Ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r Ffïoedd Trwyddedu

Caiff ffïoedd petrolewm eu gosod yn genedlaethol.

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi fel y gellir asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn arolygu'n flynyddol ar adeg adnewyddu eich trwydded, ond gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o broses y drwydded, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

Sylwer, gallai gymryd mwy na 28 diwrnod i brosesu eich cais, er y bydd y rhan fwyaf o geisiadau'n cael eu cydnabod, eu prosesu a'u cwblhau o fewn yr amserlen hon.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.

Cyngor ar ddefnyddio a storio petrol gartref

Beth am storio petrolewm gartref?

Gallwch storio hyd at 20 litr o betrol mewn dau gynhwysydd metel 10 litr, neu 10 litr mewn dau gynhwysydd plastig pum litr yr un yn gyfreithlon (heb drwydded). Mae'n rhaid bod pob cynhwysydd wedi'i lunio at y diben hwnnw a rhaid bod y geiriau 'Gwirod petrolewm' a 'Tra fflamadwy' wedi'u hysgrifennu'n glir arnynt.

Dylech storio unrhyw gynwysyddion mewn garej neu sied nad yw'n agos i unrhyw adeiladau eraill. Peidiwch â'u cadw yn y tŷ. Gwnewch yn siwr fod yr ardal wedi'i hawyru'n dda a heb fod yn agos i unrhyw fflamau agored ac offer trydanol byw.

Archwiliwch y cynwysyddion yn rheolaidd am ollyngiadau. Os byddwch yn arogli petrol, agorwch ffenestri a drysau a gwnewch yn siwr nad oes unrhyw un yn ysmygu neu'n cynnau neu'n diffodd switshys trydan. Gallai'r wreichionen leiaf achosi ffrwydrad.

Sut gallaf i gludo petrolewm yn gyfreithlon?

At ddefnydd domestig - heblaw'r hyn sydd yn y tanc tanwydd - yr unig ffordd y cewch gludo petrol yw mewn cynwysyddion sydd wedi'u cau'n dynn, a luniwyd yn bwrpasol at y diben hwnnw ac sydd â'r geiriau 'Gwirod petrolewm' a 'Tra fflamadwy' wedi'u hysgrifennu arnynt. Gwnewch yn siwr eu bod wedi'u gosod yn ddiogel yng nghist y cerbyd pan fyddwch yn eu cludo.

Dim ond yn yr awyr agored y dylech lenwi'r tanc â phetrol o gynhwysydd.