Crynodeb o'r Drwydded
Os ydych yn rhedeg busnes hurio sgipiau neu'n berchen ar sgipiau, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol i roi sgip adeiladwr ar briffordd gyhoeddus. Mae'r awdurdod yn cofrestru gweithredwyr sy'n dymuno cynnig sgipiau i'w hurio i fusnesau adeiladu neu i'r cyhoedd i'w rhoi ar y briffordd gyhoeddus.
Meini Prawf Cymhwysedd
Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980
Crynodeb o'r Rheoliad
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon (yn agor mewn tab newydd)
Proses Gwerthuso Cais
Bydd angen i'r gweithredwr feddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol a bod yn gludydd gwastraff cofrestredig.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?
Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed oddi wrthym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdogaeth.
Gwneud cais ar-lein
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i wneud cais am drwydded.
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Cwynion gan Ddefnyddwyr
Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi cyngor i chi. O
Camau Unioni Eraill
E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.