Arbed Dŵr

Bydd arbed dŵr o amgylch y cartref yn fuddiol nid yn unig i chi, ond i bawb. Mae defnyddio dŵr yn rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gymryd yn ganiataol, nes bydd y gwaharddiad tymhorol ar bibellau dŵr ar ein gwarthaf.

Mae’r galw am ddŵr yn cynyddu yn y sector domestig, ac mae hyn yn adlewyrchu cynnydd mewn defnydd y pen. Mae’r ffordd fodern o fyw yn gofyn am swm aruthrol o ddŵr at ddefnydd personol yn ogystal â’r cartref, er enghraifft, mae gan y rhan fwyaf o gartrefi offer megis peiriannau golchi, peiriannau golchi llestri, ac ati.

Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac annarogan, ac wrth i fesuryddion dŵr ddod yn fwyfwy cyffredin, mae arbed dŵr hefyd yn golygu arbed arian!

Cysylltwch â Dwr Cymru am wybodaeth ynghylch arbed dŵr. am wybodaeth ynghylch arbed dŵr.

Awgrymiadau ar sut i arbed dŵr yn y cartref

  • Defnyddiwch cyn lleied o ddŵr ag sydd angen arnoch pan fyddwch yn berwi dŵr mewn sosban a thegell; drwy wneud hynny, byddwch yn arbed ynni yn ogystal â dŵr.
  • Ceisiwch gadw potel neu jwg o ddŵr yn yr oergell yn lle rhedeg y tapiau nes bydd y dŵr yn llifo’n oer.
  • Golchwch lysiau a ffrwythau mewn bowlen yn hytrach nag oddi tan ddŵr sy’n llifo o’r tap. Gellir defnyddio’r hyn sydd dros ben i ddyfrio eich planhigion.
  • Mae rhaglenni hanner llwyth ar beiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi yn defnyddio mwy na hanner y dŵr a’r ynni a ddefnyddir mewn llwyth llawn. Felly, disgwyliwch nes bydd gennych lwyth llawn cyn cychwyn y peiriant.
  • Peidiwch â gadael i dapiau redeg yn ddiangen, er enghraifft, pan fyddwch chi’n brwsio eich dannedd neu’n eillio. Gall hyn wastraffu hyd at 5 litr o ddŵr y funud.
  • Cymerwch gawod yn hytrach na bath. Mae’r bath arferol yn defnyddio 110 litr o ddŵr o’i gymharu â 30 litr ar gyfer cawod arferol. Ond cofiwch y gall cawodydd pŵer ddefnyddio mwy o ddŵr na bath mewn llai na 5 munud.
  • Os ydych chi’n cymryd bath – rhannwch gyda’ch partner! Nid yn unig y byddwch chi’n arbed dŵr, ond hefyd yn ychwanegu mymryn o sbeis yn eich perthynas!
  • Gall hen sestonau toiled ddefnyddio cymaint â 9 litr o ddŵr glân bob tro y caiff ei dynnu. Gallwch leihau hyn drwy osod bag ‘save-a-flush’ neu ‘hippo’ yn y tanc sy’n arbed dŵr bob tro y caiff ei dynnu.
  • Gwnewch yn siŵr bod gollyngiadau’n cael eu trwsio’n gyflym. Gall tapiau sy’n gollwng dŵr wastraffu hyd at 4 litr o ddŵr bob dydd. 
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Ynni

Ffôn: 01495 742898

Nôl i’r Brig