Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023
Mae Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant wedi ailagor drysau ei llyfrgell, sydd newydd gael ei hailwampio, diolch i grant gwerth £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gwaith yn yr ysgol wedi bod yn mynd rhagddo dros gyfnod o 18 mis, ac roedd yn cynnwys ailddatblygu strwythur yr hen lyfrgell a’r ystafelloedd dosbarth cyfagos i greu lle mwy bywiog y gall y disgyblion ei fwynhau.
Agorwyd y llyfrgell newydd yn ffurfiol gan y Gwir Anrhydeddus Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen, sy'n gyn-ddisgybl ac yn Llywodraethwr yn yr ysgol.
Yn rhan o Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, bydd y disgyblion yn medru defnyddio’r cyfleusterau newydd, cyn ysgol ac ar ôl ysgol, yn ogystal ag yn ystod y dydd.
Bydd cyfle hefyd i’r disgyblion ddefnyddio’r cyfleusterau y tu allan i'r gwersi, a hynny fel lle tawel i astudio'n annibynnol.
Cafwyd y cyllid o £1,287,246 drwy Grant Atgyweiriadau Cyfalaf Brys Llywodraeth Cymru, ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Rheolir.
Roedd y grant hefyd yn sicrhau bod modd cwblhau gwaith adfer hanfodol o amgylch yr ysgol. Yn rhan o’r gwaith hwn oedd atgyweirio’r to a’r ffenestri, gwaith rendro ac addurno blaen y tŷ rhestredig, gosod goleuadau newydd a gwaith yn gysylltiedig â diogelwch tân.
Dywedodd Stephen Lord, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant:
“Mae disgyblion a staff yr ysgol wedi bod yn disgwyl yn amyneddgar ers Mehefin 2022, felly rydym wrth ein bodd ein bod o'r diwedd wedi agor ein llyfrgell newydd.
“Mae'r posibilrwydd o ddefnyddio'r llyfrgell i wella'r dysgu i bob disgybl, yn foment arwyddocaol yn hanes ein hysgol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y grant cyfalaf mawr ei angen ar gyfer y prosiect hwn a’r prosiectau eraill yn yr ysgol. Byddwn yn ymdrechu i barhau i ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel, a hynny’n academaidd ac yn fugeiliol.”