Disgyblion yn llunio gwerthoedd ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023

Mae disgyblion o Ysgol Gymraeg Gwynllyw wedi dweud wrth gynghorwyr sut maen nhw’n helpu i lunio gwerthoedd craidd eu hysgol.

Rhoddodd un ar hugain o aelodau o dîm Arweinyddiaeth Disgyblion yr ysgol gyflwyniad ynglŷn â sut maen nhw’n canolbwyntio nawr ar faterion penodol, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, ymgysylltiad disgyblion, cynhwysiant a chynaliadwyedd.

Cawson nhw eu gwahodd i ddod i gyfarfod o’r Cyngor Llawn yn y Ganolfan Ddinesig heddiw gan Jason O’Brien, Cyfarwyddwr Strategol dros Blant a Theuluoedd, er mwyn dangos sut mae llais y disgybl yn flaenaf yng ngweithgareddau a datblygiadau’r ysgol.

Esboniodd y disgyblion sut y bu iddyn nhw drefnu’r tîm arweinyddiaeth disgyblion yn is-bwyllgorau er mwyn mynd i’r afael â materion pwysig yn yr ysgol.

Er enghraifft, siaradodd y pwyllgor cynaliadwyedd ynglŷn â sut y bu iddyn nhw nodi prinder biniau ailgylchu o amgylch yr ysgol, felly edrychon nhw ar brisiau a phenderfynu defnyddio’u sgiliau mewn Technoleg Dylunio i wneud rhai eu hunain.

Siaradodd pwyllgor yr iaith Gymraeg ynglŷn â sut maen nhw wedi cymryd camau i ymgysylltu â’r gymuned leol trwy drefnu Ffair Nadolig, gyda phrofiad Siôn Corn yn Gymraeg.

Dywedodd y pwyllgor cynhwysiant hefyd sut y maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed i gynnig dewisiadau figanaidd a llysieuol yn y ffreutur.  

Dywedodd Dewi Rees, Blwyddyn 11, Aelod o Gyngor yr Ysgol a’r Pwyllgor Cyflawni:

"Roedd dod i gyfarfod y cyngor yn y siambr ym Mhont-y-pŵl yn fraint, nid yn unig i fi, ond i bawb ar gyngor yr ysgol. Dysgon ni lawer ynglŷn â sut mae’n sir yn gweithredu, ac yn arbennig yr Adran Addysg. Cafodd disgyblion Gwynllyw gyfle i fynegi barn ar faterion canolog a thrafod y gwerthoedd a sefydlwyd gan yr ysgol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.”

Dywedodd Jason O’Brien, Cyfarwyddwr Strategol Plant a Theuluoedd: “Bûm i’n ymweld â’r ysgol yn ddiweddar, ac roedd yn amlwg faint mae llais y disgybl yn effeithio at fusnes yr ysgol. Rydw i’n falch iawn eu bod nhw wedi gallu ymweld â’r siambr heddiw a chyflwyno gwybodaeth i’r Cyngor.  Roedd y disgyblion yn ddiddorol iawn a chodon nhw rai materion pwysig i bobl ifanc. Roedd eu cyflwyniad mor werthfawr i ni fel gwasanaeth addysg ag yr oedd i’r disgyblion.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae’n wych gweld disgyblion yn cymryd diddordeb go iawn ac yn cynhyrchu syniadau arloesol i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg.  Roeddwn i’n llawn edmygedd o’r ffordd y gwnaeth pob is-bwyllgor ddweud am eu cynllun gwaith i fynd i’r afael â gwahanol faterion yn yr ysgol.  Mae nerth lleisiau pobl yn amlwg, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwrando ar ein dysgwyr fel y gall ein haddysg yn Nhorfaen fynd o nerth i nerth.”

Diwygiwyd Diwethaf: 07/12/2023 Nôl i’r Brig