Staff yn dathlu 30 mlynedd yn yr ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 20 Medi 2022
Llany staff cropped

Mae dau aelod o staff yn dathlu 30 mlynedd ers dechrau gweithio yn yr un ysgol. 

Ymunodd Judith Joy ag Ysgol Gynradd Llanyrafon, yng Nghwmbrân, ym Medi 1992, a dechreuodd Gwyneth Baldwin, swyddog cymorth yno, ym mis Ionawr 1993.

Pan ymunon nhw gyntaf, roedd 283 o ddisgyblion yn yr ysgol, saith aelod o staff dysgu a dwy gynorthwyydd meithrin. Erbyn hyn mae 406 o ddisgyblion yno, 16 o staff dysgu ac 16 o gynorthwywyr dysgu.

Dywedodd Judith, sy'n byw yn Llantarnam: "Rydyn ni wedi gweithio yn yr un swyddfa drwy gydol yr amser, ond rydyn ni wastad wedi dod ymlaen ac nid ydym erioed wedi cael gair croes.

"Weithiau dyw rhieni ddim yn gallu dweud y gwahaniaeth rhyngom ar y ffôn ac rydyn ni wedi rhoi'r gorau i geisio eu cywiro!

"Rydyn ni wedi gweld newidiadau enfawr ers i ni ddechrau. Mae ysgolion wedi dod yn sefydliadau 24/7, 52 wythnos y flwyddyn.

"Rhan orau'r swydd yw nad yw hi byth yn ddiflas a dyw dau ddiwrnod byth yr un peth."

Fe wnaeth cydweithwyr ddathlu'r 30 gyda Judith yn gynharach y mis hwn gyda balwnau a baneri.

Ychwanegodd Judith, sy'n bwriadu ymddeol ar ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf: "Mae'r ysgol wedi bod fel teulu i mi, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych ymhlith y staff a'r rhieni dros y blynyddoedd.

"Mae'n gwylio cymaint o blant yn tyfu i fyny a bod yn rhan fach o'u bywydau yn rhywbeth arbennig iawn."

Dywedodd Gwyneth, sy'n byw yn Llanyrafon ac yn gyn-ddisgybl: "Fe wnes i ymgeisio am swydd Jude ond dwi mor falch mai hi gafodd y swydd, er fy mod dal i dynnu ei choes, heddiw!

"Pan ges i fy swydd, roedd hi'n ddechrau perthynas wych, a rhyngom rydym yn gallu sortio unrhyw broblem.

"Mae Jude wedi dod yn fwy na chydweithiwr  - mae hi'n ffrind gwych ac wedi gallu ymuno yn llawer o ddathliadau fy nheulu. Rydyn ni'n cyfarch ein gilydd bob dydd gyda chwtsh, ac wrth ffarwelio ar ddiwedd y dydd."

Meddai Eve Rowlands, Pennaeth: " Jude a Gwyn yw sylfeini ein hysgol. Maen nhw'n drefnus, yn effeithlon ac yn cyfarch pawb gyda gwên bob tro. Maen nhw'n aml yn gwybod beth sydd ei angen cyn y gofynnir y cwestiwn.

"Nid yw unrhyw beth yn ormod o drafferth ac mae'r cyfoeth o wybodaeth sydd rhyngddynt yn amhrisiadwy o ran rhedeg yr ysgol.

"Pan ymunais fel pennaeth ym mis Medi 2021, croesawodd y merched fi gyda breichiau agored ac mae'r gefnogaeth maen nhw wedi ei gynnig wedi bod yn allweddol yn fy rôl. Mae'n anrhydedd i mi fod wedi gweithio gyda nhw am y cyfnod hwn ac rwy'n hynod ddiolchgar am bopeth maen nhw'n ei wneud dros ein plant, ein teuluoedd a chymuned ein hysgol gyfan.”

Diwygiwyd Diwethaf: 20/09/2022 Nôl i’r Brig