Torfaen yn Cofio

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Medi 2022

Ar ôl marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth, mae nifer o ffyrdd i drigolion ddangos eu parch.

Llyfrau Cydymdeimlad

Mae tri llyfr swyddogol lle gellir mynegi cydymdeimlad, wedi eu lleoli yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl, Llyfrgell Cwmbrân a Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.  Bydd y llyfrau cydymdeimlad ar gael i'r cyhoedd yn ystod oriau agor arferol y lleoliadau hyn.  Bydd y rhain ar gael i'w llofnodi tan y diwrnod ar ôl angladd Ei Mawrhydi, yna bydd y llyfrau'n cael eu hanfon i'r Palas Brenhinol.

Byddem yn annog unrhyw un sy'n methu llofnodi'r llyfrau hyn i lofnodi'r llyfr cydymdeimlo ar-lein ar wefan y Teulu Brenhinol.

Blodau

Mae giatiau coffa Parc Pont-y-pŵl (gyferbyn â'r Ganolfan Ddinesig) wedi eu nodi fel safle i'r cyhoedd osod blodau os dymunant.

Tawelwch

Bydd cyfnodau o dawelwch cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi gan y Palas a byddwn yn rhannu’r wybodaeth cyn gynted ag y bo modd.

Y Cyhoeddiad

Ar brynhawn Sul, ar ôl y datganiad rhanbarthol yng Nghasnewydd, bydd datganiad lleol yn cael ei ddarllen yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl gan Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt am 4pm.

Gallwch wylio’r datganiad drwy dudalennau gwe-ddarlledu’r Cyngor yma - Cartref – Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Gwe-ddarlledu (public-i.tv) a bydd yn cael ei sgrinio’n fyw ar dudalen Facebook y cyngor.

Baneri

Mae’r baneri yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, yn hedfan ar hanner mast a byddant yn aros felly tan ar ôl angladd Ei Mawrhydi.

I gydnabod y Sofran newydd, bydd fflagiau’r Undeb yn hedfan ar fast llawn o amser y Prif Ddatganiad ym Mhalas St James ar ddydd Sadwrn hyd at un awr ar ôl y Datganiadau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru ar ddydd Sul, ac yna bydd y baneri yn dychwelyd i hanner mast i alaru am farwolaeth y Frenhines.

Gwasanaethau a chyfarfodydd y Cyngor

Mae disgwyl i wasanaethau rheng flaen y cyngor weithredu fel arfer tan ddiwrnod angladd y Frenhines.

Byddwn yn rhannu diweddariad ar newidiadau i wasanaethau ar ddiwrnod yr angladd yr wythnos nesaf.

Bydd cyfarfodydd pwyllgorau pensiwn, cabinet a chraffu’r cyngor, a oedd i’w cynnal yr wythnos nesaf, yn cael eu had-drefnu cyn gynted ag y bo modd ar ôl angladd y Frenhines.

Gemau a digwyddiadau pêl-droed

Fodd bynnag, mae Sioe Fferm Gymunedol Dôl Werdd, a oedd i’w chynnal ddydd Sul, wedi ei chanslo. 

Mae pob gêm bêl droed yng Nghymru wedi eu canslo y penwythnos yma gan y FAW. Bydd y gemau yn cario trosodd i’r dyddiadau nesaf y mae clybiau eu hangen. Unrhyw ymholiadau, ebostiwch kate.austin@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 766720.

Mae hwyl-ddydd Pont-y-pŵl a oedd i gael ei gynnal fory rhwng 9.30 - 12.30 wedi ei ganslo, ond bydd yn cael ei ad-drefnu ar ddyddiad arall. Yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael drwy ddilyn @TorfaenLibraries ar Facebook.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/09/2022 Nôl i’r Brig