Gwobr i ddau o arwyr Covid

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Tachwedd 2022
Akin and Patrick TVA award 3

Pan ddechreuodd y pandemig Covid a phan gaeodd eu canolfan ddydd dros dro, penderfynodd Akin Agbaje a Patrick Smith weithredu.

Gyda help eu gweithwyr cymorth, dechreuasant ddosbarthu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) i ddarparwyr gofal cymdeithasol ledled y fwrdeistref.

Ers hynny, maent wedi dosbarthu mwy na 27 miliwn o eitemau.  

Meddai Grant Jarrett, arweinydd tîm gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Tŷ Nant Ddu Pont-y-pŵl: "Dechreuodd Akin a Patrick ddosbarthu PPE yn ystod y pandemig ac maent yn dal i ddosbarthu bob dydd Iau. Nid ydynt wedi colli diwrnod ers iddynt ddechrau.  

"Maent yn llwytho’r fan ac yn mynd allan gydag aelod staff i ddosbarthu i fwy na 40 o gartrefi gofal preswyl, cynlluniau byw yn annibynnol a thimau gofal cymdeithasol gwahanol.

"Maent wedi cyflawni rhywbeth anhygoel sydd wedi cael effaith bositif, pellgyrhaeddol arnyn nhw a’r gymuned yn ehangach."

Y mis diwethaf, cydnabuwyd Akin, 27, o’r Dafarn Newydd a Patrick, 29, o Bont-y-pŵl, am eu hymdrechion yng Ngwobrau Cymuned a Gwirfoddolwyr Torfaen, gan ennill Gwirfoddolwr Iechyd y Flwyddyn.

Cawsant eu gwobrau gerbron cynulleidfa o 200 o bobl mewn seremoni yn y Parkway Hotel, yng Nghwmbrân, a drefnwyd gan Gymdeithas Wirfoddol Torfaen.  

Dywedodd Tom Boor, swyddog datblygu sector Cynghrair Wirfoddol Torfaen: "Roedd pob un o’r enwebai yn wych, ond roedd y beirniaid llawn edmygedd gan ymrwymiad Akin a Patrick yn ystod Covid."

Ychwanegodd Grant, a enwebodd y ddau ar gyfer y wobr: "Roedd cyrraedd y rownd derfynol yn lwyddiant hynod i’r ddau, felly roedd ennill y wobr yn wych. Mae’n gydnabyddiaeth o’r hyn y mae’r ddau wedi ei gyflawni."

Mae Grant a’r tîm nawr yn gweithio mewn partneriaeth â CWT i adnabod cyfleoedd gwirfoddoli eraill i Akin a Patrick.

Noddwyd y Wobr Gwirfoddolwr Iechyd gan Carlisle Brake a Friction, ym Mamheiliad.

 I gael gwybodaeth ar gyfleoedd Gofal Dydd Cyngor Torfaen, ewch i’n gwefan. 

Diwygiwyd Diwethaf: 24/11/2022 Nôl i’r Brig