Arwr newid hinsawdd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022

Mae Cydgysylltydd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur y Cyngor, Veronika Brannovic, wedi ei henwi fel arwres newid yn yr hinsawdd gan y Loteri Genedlaethol.

Cychwynnodd Vee weithio gyda Chyngor Torfaen ym mis Mawrth 2020 ac mae wedi arwain prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy’n hybu twf gwyllt yn ardaloedd Torfaen a Blaenau Gwent.

Mae hi bellach yn un o nifer o unigolion sydd wedi ei chynnwys mewn darn o gelfyddyd ddigidol gan yr artist Yoniest Chun i ddathlu sut mae cyllid Loteri yn helpu i warchod yr amgylchedd.

Meddai Veronika, "Mae’n anhygoel. Yn bersonol, rwy’n teimlo ychydig o embaras ynglŷn â’r sylw, ond gwaith tîm yw hwn – nid fi yn unig sydd wedi gwneud hyn. Mae fy nghydweithwyr a’r gwirfoddolwyr sydd wedi chwarae rhan wedi gwneud i hyn ddigwydd.

"Rydym wedi gwneud newid anferth. Rydym nawr yn gweithio ar 150 o safleoedd ledled Torfaen, sy’n dipyn o gamp. Mae’n llwyddiant i’r tîm cyfan sy’n gweithio ar hyn.

"Rwy’n caru natur, ac wastad wedi gwneud, hyd yn oed fel plentyn. Tyfais i fyny mewn ardal wledig ac roeddwn yn ei ystyried fel cae chwarae mawr mewn gwirionedd. Roeddwn yn chwarae allan yn yr awyr agored, yn dal sioncod gwair a gwylio dyfrgwn, pethau fel yna.

"Ar ôl hynny symudasom i ardal ôl-ddiwydiannol, a fyddai’n wahanol, byddech yn meddwl, ond roeddwn wrth fy modd yn crwydro y fan honno hefyd. Y cysylltiad mawr yna i natur a'r amgylchedd naturiol – roeddwn eisiau gwneud rhywbeth a oedd yn helpu hynny wrth ddelio gyda’r argyfwng hinsawdd. 

"Mae gweithio mewn cadwraeth yn bwysig iawn i mi, hyd yn oed gwneud gwahaniaeth lleol.”

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Rydym yn falch iawn o Veronika a’r holl waith mae’n ei wneud gyda’r gymuned i hybu’r amgylchedd a chadwraeth.

“Mae ei hangerdd yn amlwg a hoffwn ei llongyfarch ar ei enwebiad; mae’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth, mae hi’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth””.

Mae’n Wythnos Hinsawdd Cymru yr wythnos nesaf a'r thema yw cyfranogiad a cyhoedd a gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Dilynwch #TorriCarbon a #MeithrinNaturTorfaen ar Facebook, Instagram a Twitter i gael gwybod mwy.

Dywedwch wrthym beth ydych chi’n ei feddwl am gynllun y Cyngor i amddiffyn yr amgylchedd lleol a gwella cynaliadwyedd yma: https://getinvolved.torfaen.gov.uk/the-county-plan

Dysgwch sut mae Cyngor Torfaen yn bwriadu gwella cynaliadwyedd dros y 5 mlynedd nesaf yma: https://www.torfaen.gov.uk/cy/AboutTheCouncil/Climate-change/Climate-change-and-nature-emergency.aspx

Mae rhagor o wybodaeth am y Bartneriaeth Natur Leol ar gyfer Torfaen a Blaenau Gwent yma: https://www.torfaen.gov.uk/cy/AboutTheCouncil/Climate-change/Climate-change-and-nature-emergency.aspx

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2022 Nôl i’r Brig