Gorymdaith Sul y Cofio

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Tachwedd 2022
armed forces parade

Yn digwydd ar 13 Tachwedd 2022, mae Sul y Coffa yn ddyddiad pwysig yng nghalendr blynyddol y genedl.

I nodi’r achlysur, mae cyfres o orymdeithiau a gwasanaethau wedi’u trefnu ar draws y fwrdeistref sirol.

Disgwylir i gannoedd o bobl ledled Torfaen ddod at ei gilydd i gofio’r sawl a wasanaethodd ac sy’n parhau i wasanaethu mewn anghydfodau milwrol, i amddiffyn ein rhyddid democrataidd a’n ffordd o fyw.

Blaenafon

10.40am - ​Gorymdaith o’r Maes Parcio Uchaf, gan orymdeithio trwy BroadStreet ac Ivor Street at y Senotaff

11.00am​ - Gosod torchau a gwasanaeth wrth y Senotaff

Cwmbrân

10.25am - Yr Orymdaith yn gadael Wesley Street/Clomendy Road am Barc Cwmbrân

10.50am - Gweithred Goffa ym Mharc Cwmbrân

Y Dafarn Newydd

10.00am​ - Gorymdaith yn ymgasglu wrth Neuadd Eglwys y Santes Fair, The Highway, Y Dafarn Newydd

10.10am​ - Gorymdaith yn symud tuag at Eglwys y Santes Fair

10.30am​ - Gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair

11.20am​ - Gorymdaith yn dychwelyd at Neuadd Eglwys y Santes Fair

Pontnewydd

10.15am​ - Gorymdaith yn ymgasglu

10.30am​ - Gorymdaith o Glwb Lleng Brydeinig Pontnewydd, Station Road, Pontnewydd ar gyfer seremoni gosod torchau a gwasanaeth wrth ySenotaff. Bydd dwy funud o dawelwch am 11.00am

Pont-y-pŵl

11.45am​ - Gorymdaith yn ymgynnull ar Commercial Street, Canol Tref Pont-y-pŵl

12.00noon - ​Gorymdaith yn symud o bwynt ymgasglu at y Clwydi Coffa, Pont-y-pŵl ar gyfer gwasanaeth a seremoni gosod torchau; dychwelyd trwy gylchfan Clarence

Bydd cau ffyrdd am gyfnod o 30 munud cyn ac ar ôl orffen y gorymdeithiau.

Meddai Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Torfaen, y Cynghorydd John Horlor “Mae Sul y Coffa yn ddyddiad pwysig iawn yn ein calendr o ddigwyddiadau, gyda channoedd o bobl leol, hen ac ifanc, yn gallu talu teyrnged i’r sawl sydd wedi marw a’r sawl sy’n parhau i wasanaethu. 

Mae rhestr lawn o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnal ar y diwrnod, i’w gweld ar wefan Cyngor Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/11/2022 Nôl i’r Brig