Cymorth i Cream of the Crop!

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 31 Mai 2022
Food4Growth montage

Mae rhaglen sy’n cynnig £10,000 i gynhyrchwyr bwyd gwledig i arallgyfeirio a chreu rhwydweithiau bwyd cynaliadwy newydd yn talu.

Mae tri busnes yn Nhorfaen wedi derbyn grantiau Food4Growth, gan gynnwys Cream of the Crop, wedi’i leoli yng Nghwmbrân. 

Mae’r perchnogion Alun a Verity Cadwallader wedi rhedeg gwasanaeth dosbarthu ffrwythau a llysiau ers mis Ebrill 2020 ac fe wnaethant gais am y grant i greu prosiect newydd sy’n cynorthwyo teuluoedd sy’n derbyn taliadau Cychwyn Iach y GIG ac i hyrwyddo eu busnes.

Meddai Alun: "Roeddem wrth ein boddau yn derbyn y grant, a fydd yn gwneud gwahaniaeth anferth i’n busnes teuluol.

"Rydym wedi gallu cynyddu ein gweithgareddau hyrwyddo, fel bod mwy o deuluoedd a busnes yn Nhorfaen yn gwybod amdanon ni a’n cynnyrch ffres.

"At hyn, diolch i’r grant yma, rydym wedi gallu creu prosiect newydd i helpu teuluoedd sy’n derbyn taliadau Cychwyn Iach i ddyblu faint o arian y gallent ei wario gyda ni. Gobeithio y bydd hyn yn helpu llawer o deuluoedd yn Nhorfaen yn ystod yr argyfwng costau byw presennol."

Mae James Morris, o fferm Tŷ Poeth, yn y Dafarn Newydd, hefyd wedi arallgyfeirio ei fusnes diolch i fenter Cyngor Torfaen, a ariennir gan Gronfa Adferiad Cymunedol Llywodraeth y DU.

Mae’r arian wedi talu James i allu creu digwyddiadau hel eich cynnyrch eich hun, gan gynnwys pwmpenni a mefus, drysle blodau haul a thwnnel polythen i dyfu llysiau lleol.

Ac mae Joe a Jennie Tunley, o fferm Blaen y Cwm, yng Nghwmbrân, wedi defnyddio’r cyllid i ddatblygu gwin ysgawen Twmbarlwm, menter fusnes newydd yn tyfu a gwneud y gwin ar y fferm.  

Nawr, mae chwe grant busnes gwledig arall o £10,000 ar gael. 

Rhaid derbyn ceisiadau am y grantiau newydd erbyn dydd Gwener, 10 Mehefin. I gael pecyn gwneud cais neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nikki Williams, Rheolwr Datblygu Gwledig, ar 01495 742147 neu ebostiwch nikki.williams@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 31/05/2022 Nôl i’r Brig