Cymorth i fusnesau gwledig dyfu

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Mai 2022
Elderberry wine

Mae prosiect gyda’r nod o gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol yn cynnig grantiau i fusnesau lleol i’w helpu nhw i arallgyfeirio. 

Mae gan raglen Food4Growth yn Nhorfaen chwe grant arall o £10,000 ar gael i fusnesau bwyd lleol gyda syniadau arloesol ynglŷn â sut i ychwanegu gwerth i’w cynnyrch, a helpu i greu rhwydweithiau bwyd cynaliadwy newydd.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd tair grant i gwmnïau gan gynnwys Joe a Jennie Tunley, o fferm Blaen Y Cwm, yng Nghwmbrân, a wnaeth gais am gyllid i ddatblygu Gwin Ysgawen Twmbarlwm, menter fusnes newydd yn tyfu a gwneud gwin ar y fferm.  

Roedd ymgeiswyr llwyddiannus eraill yn cynnwys fferm Tŷ Poeth, yn y Dafarn Newydd, a wnaeth gais am grant ar gyfer digwyddiadau hel cynnyrch eich hun, gan gynnwys pwmpenni ar gyfer Nos Calan a datblygu cae mefus, drysle blodau haul a thwnnel polythen i dyfu llysiau lleol. 

A Cream of the Crop, gwasanaeth dosbarthu ffrwyth a llysiau lleol yng Nghwmbrân, a wnaeth gais am gyllid i ddatblygu ymgyrch farchnata i gefnogi cynlluniau Cychwyn Iach y GIG ac annog bwyta’n iach.

Rhaid derbyn ceisiadau am y grantiau newydd erbyn dydd Gwener 10 Mehefin. I gael pecyn gwneud cais, cysylltwch gyda Nikki Williams, Rheolwr Datblygu Gwledig ar 01495 742147 neu ebostiwch nikki.williams@torfen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 20/05/2022 Nôl i’r Brig