Tafarn yn denu cwsmeriaid ar gyfer diwrnod pleidleisio

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 4 Mai 2022
Unicorn pub

Bydd yr Unicorn Inn ym Mhont-y-pŵl y dafarn gyntaf yn Nhorfaen i letya gorsaf bleidleisio fel rhan o #EtholiadauLleolTorfaen2022 eleni.

Mae pleidleiswyr yn mynd allan ddydd Iau i ethol 40 o gynghorwyr bwrdeistref sirol yn Nhorfaen, gyda phedwar Etholiad Cyngor Cymuned hefyd yn cael eu hymladd ar yr un diwrnod. 

Bydd mwy na 550 o drigolion o ward Pont-y-pŵl Fawr yn gallu bwrw eu pleidlais yn yr Unicorn Inn ar diwrnod yr etholiad.

Meddai tafarnwraig yr Unicorn, Porscha Hilton: "Rydym wrth ein boddau i fod y dafarn gyntaf un yn Nhorfaen i fod yn orsaf bleidleisio, ac rydym yn teimlo ei fod yn beth gwych i’w gynnig i’n cymuned.

"Mae gennym ddigon o le i barcio tu allan a gardd sydd wedi ei hailwampio yn ddiweddar i wella mynediad a’i gwneud yn haws i bobl ag anabledd ddod draw i fwrw eu pleidlais.

"Ynghyd â’r orsaf bleidleisio, byddwn yn rhedeg ein busnes fel arfer hefyd, gan weini bwyd a diod drwy’r dydd."

Mae pleidleisio yn cychwyn am 7am ar ddydd Iau 5 Mai a bydd yn gorffen am 10pm. Ni fydd unrhyw un yn cael pleidleisio ar ôl yr amser hwn. 

Meddai Rheolwr Etholiadau Cyngor Torfaen, Caroline Genever-Jones: “Bydd diwrnod yr etholiad yn achlysur hanesyddol i bleidleiswyr yma yn Nhorfaen a ledled Cymru, gan mai dyma’r tro cyntaf y bydd unrhyw un dros 16 oed neu ddinasyddion tramor sy’n gymwys, yn cael pleidleisio mewn etholiad cyngor lleol.

"I ychwanegu at hynny, rydym hefyd wrth ein boddau i gyflwyno ein tafarn gyntaf fel gorsaf bleidleisio, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn denu mwy o bleidleiswyr.

"Ar gyfer pleidleiswyr post sydd efallai wedi ei gadael yn rhy hwyr, gallent o hyd fynd â’u pleidlais bost i unrhyw orsaf bleidleisio ledled y fwrdeistref, cyn 10pm nos fory."

Mae rhagor o wybodaeth am yr etholiad, gan gynnwys yr ymgeiswyr a lleoliad y gorsafoedd pleidleisio, i’w gweld ar wefan y cyngor yn www.torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 04/05/2022 Nôl i’r Brig