Cyngor Torfaen yn cefnogi Awr Ddaear 2022

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Mawrth 2022

Bydd Cyngor Torfaen yn diffodd goleuadau’r Ganolfan Ddinesig ar gyfer Awr Ddaear 2022.

Mae Awr Ddaear WWF yn ddigwyddiad byd-eang, sy’n dod â channoedd o filiynau o bobl ynghyd ar draws y byd i uno a dangos eu bod yn malio am ddyfodol ein planed, ein un cartref ar y cyd.  Eleni cynhelir Awr Ddaear ar nos Sadwrn 26 Mawrth 8:30-9:30pm gyda chartrefi, cymunedau, busnesau a thirnodau ledled Cymru yn cymryd rhan. 

Y llynedd, cymerodd mwy na 2,000 o bobl yng Nghymru ran yn Awr Ddaear ac eleni  mae WWF Cymru’n gofyn unwaith eto i bobl fod yn rhan o fudiad dros ein byd.

O dwyni glan môr i weundiroedd mawn, mae gan Gymru dirweddau naturiol hynod. Mae Cymru’n gwlad yn gartref i lawer o blanhigion gwyllt fel lili’r Wyddfa ac anifeiliaid gwyllt fel dolffiniaid trwyn potel Bae Ceredigion.

Mae 2022 yn flwyddyn bwysig i newid. Trwy ymuno â miliynau o bobl o gwmpas y byd a dod ynghyd ar noson Awr Ddaear, mae cymunedau ar draws Cymru’n dangos eu bod yn malio am ddyfodol ein planed.

Sut y gallwch gymryd rhan yn Awr Ddaear 2022:

  • Cymryd awr i gysylltu – â natur, eich cymuned ac â phobl o gwmpas y byd: er enghraifft, cael cinio yng ngolau canhwyllau gyda ffrindiau a theulu. 
  • Diffodd goleuadau: Diffodd unrhyw oleuadau diangen am awr ar 26 Mawrth rhwng 20.30 a 21.30 GMT er mwyn helpu i greu sioe symbolaidd ac ysblennydd.
  • Digwyddiadau: Cynnal digwyddiadau yn y gymuned yn y cyfnod cyn ac ar ddiwrnod Awr Ddaear i ymgysylltu â phobl. Ymuno â digwyddiad ar-lein WWF Cymru ar Facebook i gael diweddariadau: Earth Hour Wales 2022 Awr Ddaear Cymru (facebook.com)
  • Hyrwyddo: Dangos cefnogaeth i Awr Ddaear trwy rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud ar eich sianelau cyfryngau cymdeithasol. Yr hashnodau i’w defnyddio ar y noson yw  #EarthHourWales ac #AwrDdaear. 
  • Lawrlwytho ap 'My Footprint’ WWF: Cofrestrwch am her Awr Ddaear a darganfod sut y gallwch wneud gwahaniaeth, un cam ar y tro.   
Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2022 Nôl i’r Brig