Busnesau bach yn cael eu helpu i ffynnu ar ôl y pandemig

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Mawrth 2022
SWW montage

Mae cyfanswm o £50,000 wedi ei roi i fusnesau bach yn Nhorfaen i’w helpu i adfer ac tyfu ar ôl y pandemig.

Dyfarnwyd Grantiau Adferiad Covid yr Economi Sylfaenol o hyd at £5,000 i 13 o gwmnïau lleol a oedd eisiau buddsoddi yn eu technoleg ddigidol a TG i wella trosiant yn y dyfodol.

Yn eu plith oedd  Speckled Wood Wildlife, wedi ei leoli ym Mhontnewynydd, a sefydlwyd gan Nicky a Roo Perkins ym mis Ionawr 2020. 

Mae’r cwmni, sy’n cynnig ystod o gyrsiau a theithiau bywyd gwyllt, wedi cael bron i £2,500 tuag at gostau gliniadur newydd, meddalwedd golygu a pheiriant argraffu. 

Meddai Nicky, yn y llun: "Mae’r grant wedi golygu ein bod wedi gallu prynu gliniadur gyda phŵer prosesu cyflym sydd ei angen i olygu fideos a ffotograffau, ynghyd â meddalwedd golygu fideos a ffotograffau penigamp.

"Mae’n hanfodol i ni bod ein cyrsiau yn aml-gyfrwng ac mae’r cyfle i allu cynhyrchu fideos a ffotograffau o ansawdd uchel sydd wedi eu golygu yn broffesiynol yn allweddol i lwyddiant ein busnes. 

"Roedd ein technoleg flaenorol yn cael trafferth i redeg hyd yn oedd meddalwedd golygu hŷn, ac felly roeddem wedi ein cyfyngu cyn i ni gael cyfle i wneud cais am y grant. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Torfaen am roi’r cyfle yma i ni i wella ein busnes a rhoi’r cyfle gorau i ni dyfu yn y dyfodol.”

Derbyniodd cwmni dillad awyr agored plant  Wet Wednesdays, wedi ei leoli ym Mlaenafon, £5,000 i helpu i gynyddu gwerthiannau arlein.

Meddai’r perchennog Lizzie Enriquez: "Mae gennym wefan ers talwm ond cyn y pandemig, sioeau megis Sioe Frenhinol Cymru, oedd ein marchnad fwyaf.

"Ers Covid rydym wedi canolbwyntio yn llwyr ar werthiannau arlein a buddsoddi’n drwm mewn hysbysebu a marchnata. Bydd y grant yn ein helpu i ddatblygu ein gwerthiannau arlein a pharhau i dyfu."

Mae Grantiau Adferiad Covid yr Economi Sylfaenol yn rhan o Gronfa Adferiad Covid £1.2m Cyngor Torfaen. Roedd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais am grantiau tuag at 80 y cant o gostau gwelliannau.     

Dywedodd Kate Blewitt, Arweinydd Tîm Prosiectau’r Economi Sylfaenol: "Tra bo cyllid wedi bod ar gael i gefnogi busnesau drwy’r pandemig Covid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae’r ffocws wedi bod ar sefydlogi busnesau. Bu llai o gymorth i helpu busnesau i addasu i’r dyfodol.

"Mae’r prosiect hwn wedi cynnig cymorth ariannol i fusnesau bach i gynyddu trosiant yn y dyfodol. Hyd yma, mae 30 o swyddi wedi eu diogelu ac mae wyth swydd newydd wedi eu creu, sy’n newyddion gwych."   

I gael gwybodaeth am gymorth busnes, gan gynnwys grantiau, cyfleoedd hyfforddi a digwyddiadau, ewch i www.southwalesbusiness.co.uk a thanysgrifiwch i’r e-gylchlythyr wythnosol.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2022 Nôl i’r Brig