Gwersi diogelwch i blant ysgol gynradd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Mawrth 2022

Mae mwy na 1000 o blant ysgolion cynradd wedi bod yn dysgu am ddiogelwch ar y ffordd, peryglon tanau glaswellt, a sut i aros yn ddiogel o gwmpas dŵr.

Anelir gwersi Criw Craff at ddisgyblion Blwyddyn 6, rhwng 10 ac 11 oed, sy’n paratoi i symud i’r ysgol uwchradd ym mis Medi.

Cyflwynodd Swyddog Diogelwch y Ffordd Torfaen sesiynau ar bwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch, ynghyd â chyflwyniadau gan yr RNLI, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Network Rail, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Western Power a’r fyddin.

Meddai Kate Kerr, Swyddog Diogelwch Ffordd ar gyfer Cyngor Torfaen: “Roedd yn braf bod yn ôl yn cyflwyno sesiynau diogelwch ffordd wyneb yn wyneb, ond roedd yn bryderus bod rhyw 50 y cant o blant ifanc yn cyfaddef nad oeddynt bob amser yn gwisgo gwregys diogelwch ar gyfer pob taith.

“Felly, gyda’n gilydd, buom yn trafod yr amrywiol esgusodion roedd gan bobl am beidio â’u gwisgo bob amser, a thrafod ei bod yn hanfodol eu gwisgo ar bob taith rydym yn eu cymryd.

“Ystyriodd y plant pa mor bwysig oedd gwisgo gwregys diogelwch yn iawn, a pham y mae angen i bawb rydym yn teithio gyda nhw eu gwisgo i osgoi anaf iddyn nhw neu bobl eraill sy’n teithio gyda nhw.

“Roedd y plant yn bositif iawn ynglŷn â’r wybodaeth a roddwyd iddynt nhw, gyda’r mwyafrif wedi eu hargyhoeddi i wneud yn siŵr eu bod nhw a’u cyd-deithwyr yn gwisgo’r gwregys ar bob taith.”

Mae’r Criw Craff yn ddigwyddiad blynyddol hollbwysig ac yn boblogaidd iawn gydag ysgolion a phartneriaid. Mae’n rhoi cyfle i sefydliadau gyrraedd nifer fawr iawn o blant dros ychydig o wythnosau i gyflwyno negeseuon hollbwysig. Mae sesiynau Criw Craff wedi eu dylunio i roi gwybodaeth hollbwysig i blant ar eu diogelwch a’u cyfrifoldebau wrth iddyn nhw symud ymlaen i’r ysgol uwchradd a dod yn oedolion ifanc.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2022 Nôl i’r Brig