Ymunwch â gwasanaeth o'r radd flaenaf

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Mawrth 2022
Play service jobs

Os hoffech chi gael eich talu i helpu plant i chwarae, yna mae gwasanaeth chwarae arobryn Cyngor Torfaen wrthi’n recriwtio.

Mae gan Wasanaeth Chwarae Torfaen nifer o swyddi ar gael, gan gynnwys swyddi gweithwyr chwarae a gweithwyr lles, i helpu i gyflenwi amrywiaeth eang o gyfleoedd chwarae'r haf yma.

Bydd y cynlluniau chwarae yn mynd o ddydd Llun 1 Awst tan ddydd Iau 25 Awst. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf erbyn 1 Awst 2022.

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Gwener 1 Ebrill ac mae’n rhaid gwneud hyn ar-lein trwy wefan Torfaen.

Mae’r gwasanaeth yn chwilio hefyd am wirfoddolwyr 16+ oed i helpu i gyflenwi:

  • Gwersylloedd Actif mewn ysgolion cynradd
  • Cynlluniau Chwarae Mynediad Agored mewn adeiladau cymunedol 
  • Sesiynau Chwarae a Gweithgaredd
  • Sesiynau Chwarae a Seibiant i blant a phobl ifanc ag anableddau ac ymddygiadau cymhleth 
  • Sesiynau Chwarae yn y Parc

Ymunodd Maia Elsworthy, 16, o Goed Efa, fel Gwirfoddolwr Chwarae gyda’r gwasanaeth yr haf diwethaf ar ôl clywed amdano gan ei ffrindiau a oedd wedi gwirfoddoli o’r blaen.

Fel dawnswraig bale brwd, mae Maia’n dod â dawns i mewn i’w rôl fel gwirfoddolwr ac yn cynnal sesiynau gyda’r plant

Mae Maia’n astudio lefel A mewn Bywydeg, Cemeg a Seicoleg ar hyn o bryd ym Mharth Dysgu Torfaen ac yn cael hyd i amser i wirfoddoli rhwng cyfnodau o astudio.

Dywedodd hi: “Rydw i wrth fy modd yn gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Chwarae!  Rydw i wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd ac rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda’r plant i gyd. Rwy’n gwirfoddoli’n rheolaidd nawr pedair gwaith yr wythnos a fedra’ i ddim aros am yr haf eto.”

Fel arfer, mae rhyw 150 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y cynllun pob haf, ble mae cyfle iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd, cael profiad i’w nodi ar eu CV, gwneud ffrindiau newydd a chael amser gwych dros yr haf.

Mae Luc Payne, 19, o’r Ddôl Werdd, yn astudio ar gyfer gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ac yn credu bod y profiad a gafodd yn ystod ei amser yn gwirfoddoli gyda Chwarae Torfaen wedi ei helpu i gael lle ar y cwrs.

Dywedodd: “Pe na bawn i wedi gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth chwarae, dydw i ddim yn credu y buaswn i yn y lle rydw i heddiw.  Roedd yn fodd i fi fagu hyder wrth weithio gyda phlant, a gwnaeth i fi sylweddoli mae dyma’r hyn yr wyf am wneud fel gyrfa. Mae’n gyfle anhygoel, a buaswn yn annog unrhyw un i wirfoddoli.”

Dechreuodd Neve Jenkins, 17, o Lantarnam, wirfoddoli gyda Chwarae Torfaen dwy flynedd yn ôlac mae hi nawr wrthi’n gwneud ceisiadau i’r brifysgol, ble mae hi’n gobeithio astudio Cemeg.

Dywedodd: “Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi wneud pethau da yn y gymuned a chael dealltwriaeth well o chwarae a’r buddion i bob plentyn. Gwellodd fy hyder ac fe wnes i ffrindiau newydd.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i wirfoddoli yw dydd Sadwrn 30 Ebrill 2022.

Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen: “Mae hwn yn brofiad gwerthfawr i unrhyw un sydd am weithio gyda phlant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach.

“Rydym wedi bod yn cynnig y gwasanaeth yma ers dros 20 mlynedd nawr ac mae’n tyfu pob blwyddyn.  Mae pobl ifanc yn wych a, hebddyn nhw, ni fydden ni’n gallu cynnig cymaint ag yr ydym yn cynnig.”

Am fwy o wybodaeth am recriwtio Gwasanaeth Chwarae Torfaen, cysylltwch â andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2022 Nôl i’r Brig