Mae Gwanwyn Glân Torfaen yn ei ôl

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Mawrth 2022

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio ar gyfer Gwanwyn Glân Torfaen eleni.          

Mae sesiynau hel sbwriel yn cael eu trefnu mewn naw lleoliad ledled y fwrdeistref y mis nesaf, gan gynnwys Parc Sandybrook a Siopau Fairwater yng Nghwmbrân; llwybr afon Chapel Lane i Edlogan Way, ac o gwmpas y Crown Hotel yn Varteg.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae ein criwiau glanhau strydoedd a staff y gwasanaeth cefn gwlad yn gweithio’n galed bob dydd yn hel sbwriel a cheisio gwneud y fwrdeistref yn lle glân a gwyrdd, ond mae cadw’r amgylchedd yn rhydd rhag sbwriel yn gyfrifoldeb i bawb.

“Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn gwario mwy nag £1.3 miliwn y flwyddyn o arian trethdalwyr yn codi sbwriel a chlirio ar ôl tipio anghyfreithlon. Pe na bai sbwriel neu dipio anghyfreithlon, gellid ail-fuddsoddi’r arian yma mewn gweithgareddau cynhyrchiol sydd o fudd i’n cymunedau.

“Nid ydym yn hoffi rhybuddio pobl ynglŷn â dirwyon, ond os byddwn yn gweld unrhyw un yn taflu sbwriel neu’n tipio’n anghyfreithlon, bydd ein tîm gorfodi yn eich dirwyo, felly meddyliwch ddwywaith cyn gwneud hynny.

“Byddaf allan yn hel sbwriel pan allaf yn ystod yr ymgyrch Gwanwyn Glân a hoffwn annog pawb i roi rhyw awr neu ddwy o’u hamser i gymryd rhan yn y sesiwn agosaf atyn nhw.

“Treuliodd mwy o bobl nag erioed amser yn eu mannau gwyrdd lleol dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig Covid, felly beth am ddangos ychydig o barch.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn cael effaith lawer mwy na phan rydyn ni’n gweithio ar ein pennau ein hunain.”

Dywedodd Ron Ford, o Griffithstown, gwirfoddolwr Hyrwyddo Hel Sbwriel Torfaen: “Mae gwirfoddoli yn beth gwerth chweil ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r gymuned, a buaswn yn annog pawb i gymryd rhan yn ymgyrch gwanwyn Glân Torfaen, neu drefnu eich sesiynau eich hun.

“Mae angen i bobl gymryd parch yn y lle maent yn byw ynddo. Petai pawb yn codi un darn o sbwriel y diwrnod, byddai’r broblem hon yn diflannu dros nos.”

Cynhelir Gwanwyn Glân Torfaen rhwng dydd Llun 25 Ebrill a dydd Gwener 6 Mai. Bydd y cyntaf ym Mharc Sandybrook, St Dials, ar ddydd Llun 25 Ebrill, o 9.30am.

I gael gwybod lle mae’r digwyddiad agosaf atoch chi, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.

Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiad, dewch draw a chofrestru ar y dydd. Fel arall, i drefnu eich digwyddiad hel sbwriel eich hun, cysylltwch â rosie.seabourne@torfaen.gov.uk neu Mark.panniers@torfaen.gov.uk

You can also take part in Keep Wales Tidy’s annual Spring Clean Cymru campaign, which begins Friday 25 March and runs until Sunday 10 April. For more information, visit https://keepwalestidy.cymru/

Volunteers are asked to wear weather appropriate clothing, gloves and sturdy, waterproof footwear to events, as some ground may be uneven or wet. Litter picking equipment will be supplied on the day and a safety talk will be given. Please bring a drink with you if the forecast is for warm weather.

If you would like to get involved in more litter picking after Spring Clean join our dedicated Facebook page Torfaen Greener Cleaner Volunteers to get involved.

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/03/2022 Nôl i’r Brig