Croesawu gyrwyr cerbydau gwastraff ac ailgylchu newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Mawrth 2022

Yr wythnos hon, mae Cyngor Torfaen wedi croesawu pedwar gyrrwr HGV newydd i’r tîm gwastraff ac ailgylchu.

Mae recriwtio gyrwyr a llwythwyr ychwanegol yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn cerbydau ailgylchu a staff.

Yr wythnos diwethaf derbyniodd y cyngor gyflenwad o bum cerbyd ailgylchu newydd, ac mae chweched yn ymuno â'r fflyd yn fuan.

Ym mis Mai, bydd dau gerbyd gwastraff trydan newydd yn ymuno â fflyd y cyngor, a chanol 2023 bydd 19 o gerbydau ailgylchu newydd yn cyrraedd y strydoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Trwy gyflogi pedwar gyrrwr HGV newydd gallwn gael mwy o gerbydau allan i gasglu deunydd ailgylchu a gwastraff.

“Bydd yr aelodau newydd o’r tîm yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd i’r gwasanaeth ar ôl bod yn brin o staff ers tro oherwydd anawsterau recriwtio gyrwyr HGV ac absenoldeb staff oherwydd covid.

“Hoffwn ymddiheuro i drigolion unwaith eto am unrhyw anghyfleustra y maent wedi’i wynebu dros y misoedd diwethaf. Rydym yn gwneud buddsoddiadau sylweddol i wella’r gwasanaeth, ac mae gennym gynlluniau tymor byr, tymor canol a thymor hir ar waith i wella’r gwasanaeth a’n perfformiad.

“Amcangyfrifir mai ein cyfradd ailgylchu eleni yw 63 y cant felly bydd ein buddsoddiad yn ein helpu i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sef 70 y cant, erbyn 2024/25.”

Mae recriwtio ar gyfer y tîm gwastraff ac ailgylchu yn parhau, gyda mwy o swyddi llwythwyr a gyrwyr yn cael eu hysbysebu yr wythnos hon. Ewch i'r dudalen swyddi ar wefan y cyngor i ddarganfod mwy.

I gael gwybod mwy am ailgylchu yn Nhorfaen ac i gofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu arbennig ewch i'n gwefan. Gallwch hefyd ddilyn #Torri’rCarbonTorfaen ar gyfryngau cymdeithasol.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2022 Nôl i’r Brig