Dau fan chwarae yn cael eu hadnewyddu'n llwyddiannus

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022

Mae dau barc chwarae i blant wedi’u trawsnewid gydag offer chwarae newydd, coed, cloddiau a phlanhigion aromatig, diolch i dros £100,000 o gyllid.

Dechreuodd y gwaith i adnewyddu’r mannau chwarae yng Ngharn yr erw, ger Blaenafon, a Chae Derw, yn Llantarnam, Cwmbrân, yn yr hydref, gyda chyllid gan Gyngor Torfaen, cynghorau cymuned lleol, Llywodraeth Cymru a chyfraniadau gan ddatblygwyr preifat i dalu’r costau.

Heddiw, agorwyd y ddau barc yn swyddogol gan y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd Cyngor Torfaen a chynghorwyr lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, Cyngor Torfaen: “Rwy’n falch iawn o weld canlyniadau’r gwaith adnewyddu hyn, maen nhw wir yn edrych yn wych.

“Hoffwn ddiolch i bawb a aeth ati i wireddu’r gwaith adnewyddu, a gobeithio y bydd plant lleol yn mwynhau eu mannau chwarae newydd am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r ardal chwarae yng Ngharn yr erw, ger Blaenafon wedi’i thrawsnewid gyda’r holl offer a ffensys newydd ynghyd â gwelliannau i fioamrywiaeth gan gynnwys perth draenen wen frodorol, coed a blodau gwyllt sydd wedi eu plannu o’r newydd. Darparwyd cyllid o wahanol ffynonellau gan gynnwys £20,400 o Gyllid Cyfalaf Mannau Cyhoeddus y Cyngor, cyfraniadau o £25,984.22 gan ddatblygwyr a chyllid o £2,500 drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig i wella seilwaith gwyrdd mewn parciau fel rhan o Brosiect Grid Gwyrdd Gwent.

Mae’r ardal chwarae yng Ngerddi Blodau Cae Derw yn Llantarnam wedi’i hailagor ar ôl gwaith adnewyddu helaeth a ariannwyd gan gyfraniad o £10,000 gan Gyngor Cymuned Cwmbrân, £16,000 gan Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru a chyfraniadau o 42,105.42 gan ddatblygwyr. Mae offer newydd yn cynnwys siglenni, man chwarae aml ddefnydd, rowndabowt, si-so ac offerynnau cerdd awyr agored.

Mae Mike Villars, Cynghorydd Cymuned a Chadeirydd Cymdeithas Cadwraeth Trigolion Llantarnam, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel LLARCS, ynghyd ag aelodau’r grŵp cymunedol lleol hefyd wedi plannu perthi rhosmari a lafant o amgylch yr ardal eistedd newydd yn y parc. Unwaith eto, ariannwyd y gweithgaredd hwn drwy brosiect Grid Gwyrdd Gwent a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig.

Bydd yr ardal eistedd hefyd yn cynnwys mainc goffa gyda phlac wedi'i chysegru i aelodau o'r gymuned leol sydd, yn anffodus, wedi ymadael â ni. Darperir hyn trwy garedigrwydd Cynghorwyr y ward Alan Slade a David Thomas.

I gael gwybod mwy am barciau a mannau agored yn Nhorfaen ewch i wefan y cyngor.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 15/03/2022 Nôl i’r Brig