Cynghor Torfaen yn cymeradwyo cynlluniau cyllideb

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Mawrth 2022

Heddiw, cymeradwyodd Cynghor Torfaen gynigion cyllidebol diweddaraf y cyngor a phennu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i lai na dau y cant am 2022-2023.

Derbyniodd y cyngor gynnydd o 9.3 y cant mewn cyllid, yn cyfateb i £13.5 miliwn, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru. 

Roedd y cynnydd yn golygu bod gan y cyngor tua £7.8 miliwn i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau uwchlaw'r rhagdybiaeth wreiddiol.

Roedd yr adroddiad, a gefnogwyd gan fwyafrif y cynghorwyr, yn amlinellu cynlluniau i:

* Gynyddu cyllideb yr ysgolion 5.30% 

* Talu gweithwyr gofal gyflog byw gwirioneddol o £9.90 yr awr.

* Cyllid cyfalaf ychwanegol o £1 filiwn ar briffyrdd.

* 1.95% cynnydd yn y Dreth Gyngor am 2022-2023 ac 2023-2024.

* £1.1 miliwn arall ar gyfer adfer a chaledi ar ôl COVID

* Parhau gyda’r cynllun gadawyr ysgol

* Cyllid ar gyfer parhad y cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gymeradwywyd

* Arian ychwanegol i ddarparwyr gofal cymdeithasol 

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Rwy’n credu fod hon yn gyllideb dda i Dorfaen gyfan. Mae’r setliad hwn yn rhoi cyfle i ni gynllunio yn y tymor hir a gwneud buddsoddiadau mewn gwasanaethau rhwystrol ac ymyrraeth gynnar a fydd yn delio gyda phroblemau yn uwch i fyny’r ffordd. Os ydym yn meddwl yn yr hirdymor, gallwn hefyd amddiffyn y gwasanaethau hynny y mae Covid wedi dangos eu bod mor bwysig, a helpu ein hardal i adfer a dod yn gryfach ar ôl y pandemig.

“Os ydym yn ceisio cael enillion cyflym a mynd ar sbri gwario byrdymor, ni fyddwn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Adnoddau, y Cynghorydd Kelly Preston: “Rydym wedi cynnig cadw’r dreth gyngor mor isel ag y bo modd am 2 flynedd i gydnabod bod costau byw yn codi ac i roi sicrwydd ariannol i drigolion. Mae cynnydd yn y dreth gyngor o 1.95% yn adlewyrchu setliad llawer gwell gan Lywodraeth Cymru ac mae’r isaf yn f’amser i fel cynghorydd.

 “Mae hwn yn gynnydd o ryw 50c yr wythnos i gartref ar gyfartaledd (Band D) yn y fwrdeistref. Ond mae ein cynigion gwario, wrth i ni ddechrau adfer ar ôl y pandemig, hefyd yn helpu i ddelio gyda’i effaith ar ein trigolion a’n cymunedau. 

“Mae’r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i ni ddelio gyda rhai meysydd buddsoddi hollbwysig ac mae hefyd yn cynnwys cynnydd arwyddocaol i ysgolion a gofal cymdeithasol, meysydd sy’n hollbwysig i’n trigolion.”

I weld yr adroddiad, ewch wefan  i Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/03/2022 Nôl i’r Brig