Gwobr Cyfeillgar i Ofalwyr y cyntaf yng Nghymru

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022
Carer Friendly award

Cyngor Torfaen yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i ennill Achrediad Cyflogwr Cyfeillgar i Ofalwyr gan Care Collective. 

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith yr awdurdod hyd yn hyn a’r cynlluniau i gefnogi staff sy’n ofalwyr di-dâl.

Yr wythnos yma, cyflwynodd Lisa Yokwe, o Care Collective, y wobr i Tracy Harris a Kate Dibble, o dîm Datblygiad Sefydliadol y cyngor a gweithiwr cymorth gofalwyr, Louise Hook.

Dywedodd Tracy Harris, sy’n hefyd yn Uwch Hyrwyddwr Gofalwyr y cyngor: "Rydym yn falch iawn o fod yn derbyn y wobr yma sy’n cydnabod ac yn dathlu sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofalwyr yn y gweithle.

"Rydym wedi cael y wobr yma am y Polisi Gofalwyr yr ydym wedi cyflwyno, a gafodd ei gynllunio gan staff i’r staff a hefyd ein cynlluniau i gefnogi staff sy’n ofalwyr di-dâl.

"Rydym yn gobeithio y bydd yn annog mwy o gydweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofal i siarad â’u rheolwyr i ganfod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael. Hoffem hefyd bod gofalwyr eraill yn ystyried dod i weithio i Gyngor Torfaen."  

Dywedodd Jenna Slade, sy’n gweithio i’r tîm Cysylltwyr Cymunedol ac sy’n gofalu am ei mam: “Pan rydych yn ofalwr, allwch chi ddim bob amser gwneud pob dim y mae angen i chi wneud y tu allan i’r diwrnod gwaith ac weithiau, mae’r ddwy rôl yn gorgyffwrdd.

"Mae’r polisi newydd wedi rhoi’r hyblygrwydd y mae ei angen arnaf i barhau i weithio’n amser llawn a gofalu am fy mam.

"Roedd cynllun cefnogaeth bersonol yn golygu bod fy rheolwr yn gwybod am fy nghyfrifoldebau eraill pan oeddwn i’n newid timau, ac mae hyn wedi helpu fi i deimlo fy mod yn cael fy nghefnogi."

Dywedodd Lisa Yokwe, Swyddog Cyfeillgar i Ofalwyr dros Went: "Roedd y panel yn llawn edmygedd o’r ffordd yr oedd staff yn cael eu cynnwys yn natblygiad y polisi o’r cychwyn.

"Mae’n gryn gamp i sefydliad o’r maint yma greu polisi i gefnogi staff ac mae’n wych gweld ei fod yn helpu pobl yn barod."

Amcangyfrifir fod yna dros 6.5 miliwn o ofalwyr yn y DU, gydag 1 o bob 7 o weithwyr yn jyglo gwaith a gofal anwyliaid, sydd gyfystyr â 223,000 o weithwyr.

Care Collective yw’r elusen fwyaf sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae’n cynnig hyfforddiant ac achrediad i sefydliadau a thimau ledled Cymru i helpu i gefnogi gofalwyr yn y gweithle.

Cyflwynodd y cyngor Bolisi Gofalwyr yn Ebrill i gynnig mwy o hyblygrwydd i staff sydd â chyfrifoldebau gofal diolch i gynllun cefnogaeth bersonol a gwyliau ychwanegol i ofalwyr.

Cyflwynwyd hyfforddiant i staff a rheolwyr hefyd ac mae yna gynlluniau i ddatblygu rhwydwaith o gefnogaeth i staff.

Am wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Torfaen yn cefnogi gofalwyr, ewch at ein gwefan . Gallwch gysylltu hefyd â louise.hook@torfaen.gov.uk neu chwilio am Torfaen Adult Carers neu Torfaen Young Carers ar Facebook.

(Yn  y llun o’r chwith i’r dde: Louise Hook, Lisa Yowke, Tracy Harris, Jenna Slade, Kate Dibble)

Diwygiwyd Diwethaf: 29/07/2022 Nôl i’r Brig