Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 26 Gorffennaf 2022
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd.
Bydd y baneri’n hedfan dros saith o safleoedd yn Nhorfaen i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd gwych.
Nhw yw Llyn Cychod Cwmbrân, Llynnoedd y Garn, Parc Panteg, Parc Pont-y-pŵl, Coedwig Gymunedol Blaen Brân, Gwarchodfa Natur Leol Henllys a Gardd â Mur Maenor Llanfrechfa.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr aelod gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn falch iawn o’n parciau a’n mannau agored yn Nhorfaen, ac rydym wrth ein bodd bod pob un o safleoedd y Cyngor a’r gymuned a gynigiwyd wedi cael statws Baner Werdd.
Ble bynnag welwch chi Faner Werdd, rydych chi’n gwybod eich bod yn ymweld â rhywle eithriadol gyda safonau uchel. Mae gofyn am falchder ac ymroddiad i gael y statws yma, felly da iawn i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, gan gynnwys gwirfoddolwyr.”.
Mae 265 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi cael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig i erddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.
Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James: “Mae gan ein mannau gwyrdd lleol ran hanfodol i’w chwarae wrth ein cysylltu â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg Cymru yn gwneud gwaith gwych yn darparu lleoedd o safon i ymlacio a mwynhau.
“Mae’r safon sy’n ofynnol i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rwyf am longyfarch pob un o’r safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau rhagorol trwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Mae’n wych gweld ein bod ni’n dal i ddal mwy na thraean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU yng Nghymru – yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dysgu i ni i gyd pa mor bwysig yw natur a mannau gwyrdd i’n lles meddyliol a chorfforol.”
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:
“Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru
Dysgwch am sesiynau Chwarae yn y Parc, a drefnir gan Wasanaeth Chwarae Torfaen, fel rhan o’r rhaglen Haf o Hwyl.