Cynlluniau ar gyfer gorymdaith filwrol a Hwyl-ddydd Lluoedd Arfog

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022
551 - Freedom of the Borough_33

Bydd milwyr y Cymry Brenhinol yn gorymdeithio drwy Bont-y-pŵl yn ddiweddarach y mis yma i ddathlu ail-gadarnhad Rhyddid y Fwrdeistref.

Mae’n 10 mlynedd ers pan roddwyd y Rhyddid i’r Cymru Brenhinol – yr anrhydedd mwyaf y gall awdurdod lleol ei roi – i gydnabod eu gwasanaeth.

I nodi’r achlysur, bydd y Cymry Brenhinol ynghyd â Llu Cadetiaid Gwent a’r Fyddin, sefydliadau cyn-filwyr a phobl bwysig leol yn ail-gadarnhau’r anrhydedd mewn gwasanaeth ym Mhont-y-pŵl ar ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf.

Bydd aelodau o’r gatrawd hefyd yn gorymdeithio drwy’r dref a bydd Hwyl-ddydd Lluoedd Arfog am ddim ym Mharc Pont-y-pŵl, wedi ei threfnu gan Gyngor Torfaen. 

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen: “Rhyddid y Fwrdeistref yw’r anrhydedd mwyaf y gallwn ei roi ac rwy’n falch iawn y bydd y Cymry Brenhinol yn ail-gadarnhau hynny.

“Mae gan ein lluoedd arfog le arbennig yn ein hanes, fel y bydd yr arddangosfa ynglŷn â Brwydr Prydain yn ei dystio, ac mae ein milwyr yn dal i chwarae rôl hollbwysig heddiw. Mae’n hawl sy’n cael ei chydnabod a’i anrhydeddu fel hyn.” 

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 11am o dop Crane Street a bydd y gwasanaeth ail-gadarnhau yn cael ei gynnal wrth y gatiau coffa, drws nesaf i’r llyfrgell, yn fuan wedyn.

Gwahoddir ymwelwyr hefyd i ddod i’r hwyl-ddydd ym Mharc Pont-y-pŵl yn cychwyn am 10am, a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr y Gynnau Brenhinol, y Morlu Brenhinol, y Cymry Brenhinol, cerbydau milwrol, peintio wynebau a chwrs rhwystrau gladiatoriaid.

Bydd yna Hwyl-ddydd y Lluoedd Arfog ym Mharc Pont-y-pŵl, yn cychwyn am 10am wedi ei threfnu gan Gyngor.

Mae arddangosfa ar wahân yn nodi pen-blwydd Brwydr Prydain hefyd yn dod i Dorfaen yr wythnos nesaf.

I nodi 80 o flynyddoedd o’r Awyrlu Brenhinol, bydd yr Arddangosfa Deithiol Cymru a Brwydr Prydain o amgylch Cymru yn dod i Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl rhwng dydd Llun 18 Gorffennaf a dydd Sadwrn 23 Gorffennaf, a bydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu.

Diwygiwyd Diwethaf: 12/07/2022 Nôl i’r Brig