Hyfforddiant iechyd meddwl am ddim

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Gorffennaf 2022
Mental health training

Mae prosiect ar y gweill i greu rhwydwaith o hyfforddwyr iechyd meddwl cymwys yn Nhorfaen. 

Mae chwe gwirfoddolwr o wahanol sefydliadau yn Nhorfaen wedi cael hyfforddiant gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i fod yn hyfforddwyr trwyddedig.

Byddant nawr yn cynnig hyd at 20 sesiwn hyfforddi am ddim yr un i sefydliadau, grwpiau a busnesau lleol, diolch i £25,000 gan Gronfa Adfer Wedi Covid, Cyngor Torfaen.

Dywedodd Claire Reid, cyfarwyddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mlaenafon: "Y syniad yw drwy hyfforddi hyfforddwyr yn y gymuned y gallant wedyn ddarparu hyfforddiant i'w cydweithwyr a sefydliadau eraill yn eu hardaloedd lleol.

“Y nod yw darparu sesiynau yn y maes iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc, ac ar ôl hynny bydd yr hyfforddwyr yn gallu cynnal cyrsiau y telir amdanynt i gynhyrchu incwm bach i'w sefydliadau.

"Mae diddordeb mawr mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith gweithwyr rheng flaen. Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i bobl, er mwyn eu cefnogi os ydyn nhw'n meddwl bod rhywun yn dioddef trallod meddyliol." 

Mae'r gwirfoddolwyr o Gyngor ar Bopeth, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), CGT, Y Ganolfan i Blant Anabl (TOG), yn Y Dafarn Newydd, a CoStar yng Nghwmbrân, wedi cwblhau eu hyfforddiant yn ddiweddar a byddant yn cynnig sesiynau hyfforddi am ddim yn ystod y misoedd nesaf.

Meddai Lynne Howles, rheolwr elusen CoStar: "Bydd y sesiynau yn helpu pobl i adnabod yr arwyddion pan fydd rhywun yn cael trafferthion a gwybod sut i fynd ati i’w helpu.

"Mae’n debyg iawn i gymorth cyntaf corfforol sy’n eich dysgu i adnabod arwydd o drawiad ar y galon neu strôc, a’r camau sydd angen eu dilyn ar unwaith.

"Efallai mai'r cyfan sydd ei angen ar rywun yw cyfle i siarad neu efallai y bydd angen cymorth ychwanegol os bydd y symptomau'n parhau."

Ychwanegodd Rebecca Driscoll, rheolwr rhaglen TOGs: "Roeddwn i'n methu â chredu fy llygaid  pan welais fanylion y cwrs hyfforddiant iechyd meddwl.

"Mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl a gwelsom gynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n cael trafferth gyda phryder ers y pandemig.

"Mae lefel uchel o bryder o hyd ac rydym wedi sylwi bod angen cymorth ychwanegol ar rai teuluoedd hefyd."

Cwblhaodd Lynne a Rebecca yr hyfforddiant iechyd meddwl i bobl ifanc ac aethant ati i gyflwyno’u sesiwn hyfforddi gyntaf yr wythnos diwethaf. 

Ym mis Medi, bydd Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn hyfforddi mwy o hyfforddwyr gyda Heddlu Gwent a Sgowtiaid Cymru.

Os hoffech wybod mwy am y sesiynau cymorth cyntaf iechyd meddwl sy’n rhad ac am ddim, anfonwch e-bost i info@mhfawales.org

Diwygiwyd Diwethaf: 03/07/2023 Nôl i’r Brig