Cynghorwyr Torfaen i archwilio cyllideb gwell

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Ionawr 2022

Yr wythnos nesaf bydd cynghorwyr Torfaen yn archwilio cynigion diweddaraf y cyngor ar gyfer y gyllideb, a lefel arfaethedig treth y cyngor ar gyfer 2022/23.

Derbyniodd y cyngor gynnydd o 9.3 y cant yn y cyllid, sy’n gyfystyr â £13.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynnydd yn golygu bod y cyngor bellach yn rhagweld sefyllfa ariannol gadarnhaol o £8.2 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, symudiad o £9.7 miliwn o'r gyllideb ddrafft ym mis Tachwedd a oedd yn rhagweld diffyg o £1.5 miliwn yn y gyllideb.

Am y rheswm hwn mae’r dasg o graffu ar y gyllideb wedi’i gohirio er mwyn rhoi cyfle i bob cynghorydd ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau a Busnes adolygu’r gyllideb ddiweddaraf a gyflwynwyd gan bwyllgor Cabinet y cyngor gan gynnwys cynnydd arfaethedig o 1.95% yn nhreth y cyngor. Mae'r Cabinet hefyd wedi cynnig gosod treth y cyngor ar 1.95% ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol yn 2023/24.

Bydd cynghorwyr hefyd yn ystyried meysydd eraill a awgrymwyd i ddefnyddio’r adnoddau ychwanegol yn dilyn y setliad gwell. Yn ogystal â lleihau’r cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor o 3.95% i lawr i 1.95%, maent yn cynnwys:

  • £1.1m pellach tuag at adfer a chaledi yn dilyn Covid
  • Arian ychwanegol i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i Ofalwyr
  • Arian ychwanegol i ddarparwyr gofal cymdeithasol a gwasanaethau maethu
  • Arian ychwanegol ar gyfer y gweithlu, trawsnewid ac i sefydlu maes gwasanaeth newydd sy'n canolbwyntio ar gymunedau
  • Setliad ariannol cadarnhaol i ysgolion yn Nhorfaen, i helpu dysgwyr

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt:

‘‘Rwy’n credu bod ein cynigion ar gyfer y gyllideb yn dda ar gyfer pob ardal yn Nhorfaen. Mae'r setliad hwn yn rhoi cyfle i ni gynllunio yn y tymor hir ac i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar sy'n mynd i'r afael â materion yn nes ymlaen. Os ydym yn meddwl yn hirdymor, gallwn hefyd amddiffyn y gwasanaethau hynny y mae covid wedi amlygu pa mor bwysig ydynt, a helpu ein hardal i wella a chryfhau ar ôl y pandemig.

“Os caiff y cynigion hyn eu cymeradwyo gallwn fuddsoddi'n barhaus yn ein gwasanaethau hanfodol gan gynnwys cynnydd sylweddol yng nghyllidebau gofal cymdeithasol ac ysgolion.

“Os byddwn yn ceisio dod o hyd i atebion cyflym a hyrwyddo gwario ar hap yn y tymor byr, ni fyddwn yn gwneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Kelly Preston,  Aelod Gweithredol dros Adnoddau yn Nhorfaen: “Rydym wedi argymell cadw treth y cyngor mor isel â phosibl am 2 flynedd i gydnabod costau byw cynyddol ac i roi sicrwydd ariannol i drigolion. Mae cynnydd o 1.95% yn nhreth y cyngor yn adlewyrchu setliad llawer gwell gan Lywodraeth Cymru a’r un isaf yn fy nghyfnod fel cynghorydd.

“Mae hyn yn gynnydd o tua 50c yr wythnos ar gyfartaledd (band D) i gartrefi yn y fwrdeistref. Ond mae ein cynigion gwario hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag effaith y pandemig ar ein cymunedau ac yn dechrau unioni degawd o lymder a welodd rai gwasanaethau’n cael eu torri i’r eithaf.

“Er bod yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ein galluogi i fynd i’r afael â buddsoddi mewn rhai meysydd hollbwysig, roedd cynigion y gyllideb eisoes yn cynnwys cynnydd sylweddol ar gyfer Ysgolion a Gofal Cymdeithasol sy’n dangos ein hymrwymiad parhaus i’r gwasanaethau hanfodol hyn.”

Ymweld https://moderngov.torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2022 Nôl i’r Brig