Etholiadau Lleol Torfaen 2022

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Ionawr 2022
Registered to vote WELSH GRAPHIC

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai, a fydd yn cynnig cyfle i ethol 40 o gynghorwyr bwrdeistref sirol ar draws Torfaen.

Bydd yr etholiadau, a gynhelir ddydd Iau, 5 Mai, hefyd yn cynnig cyfle i ethol 78 o gynghorwyr cymuned a thref

Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers etholiadau diwethaf Llywodraeth Leol, ac mae nifer y bobl sy’n gymwys i bleidleisio yng Nghymru wedi cynyddu i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion o dramor sy’n gymwys.

Ydw i’n gallu pleidleisio?

Trigolion sydd wedi'u cofrestru ar y gofrestr etholiadol yn unig all bleidleisio. Mae angen cofrestru erbyn dydd Iau, 14 Ebrill, er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Gall unrhyw un dros 14 oed, sy'n gymwys, gofrestru yma: www.gov.uk/registertovote.

Os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar, neu os ydych yn ansicr a ydych chi wedi cofrestru, gallwch anfon e-bost at dîm etholiadau Cyngor Torfaen ar voting@torfaen.gov.uk neu ffonio 01495 762200.

Sut ydw i’n gallu pleidleisio?

Gallwch bleidleisio drwy'r post ond rhaid i chi wneud cais cyn 5pm ddydd Mawrth 19 Ebrill. Byddwch yn derbyn eich pleidlais drwy’r post ac amlen barod, rhwng 22 Ebrill a 28 Ebrill. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/how-to-vote neu ewch ati i  gysylltu â’n tîm etholiadau ar voting@torfaen.gov.uk neu 01495 762200.

Gallwch enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Rhaid i chi wneud cais cyn 5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/how-to-vote neu ewch ati i gysylltu â’n tîm etholiadau ar voting@torfaen.gov.uk neu 01495 762200.

Mae Cyngor Torfaen yn un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru sy’n treialu prosiect i ganiatáu i bobl bleidleisio’n gynnar mewn Canolfan Bleidleisio Ymlaen Llaw. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf.

Gorsafoedd pleidleisio: Gallwch bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio sydd wedi'i hargraffu ar eich cerdyn pleidleisio, ddydd Iau 5 Mai, a hynny unrhyw bryd rhwng 7am a 10pm.

Fedrai ddod yn gynghorydd?

Gall unrhyw un dros 18 oed, sydd ar y gofrestr etholiadol ac sydd wedi byw, gweithio neu fod yn berchen ar eiddo yn y fwrdeistref sirol am o leiaf y 12 mis diwethaf, sefyll mewn etholiad.

Nid oes angen i chi fod yn aelod o blaid wleidyddol i sefyll fel cynghorydd. 

Mae pecynnau enwebu ar gael gan dîm etholiadau Cyngor Torfaen. I ofyn am becyn, anfonwch e-bost i candidates@torfaen.gov.uk

Cynhelir sesiwn wybodaeth i ddarpar ymgeiswyr, ddydd Mawrth, 8 Chwefror, am 5pm. I gofrestru, anfonwch e-bost i candidates@torfaen.gov.uk

Mae angen i ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll mewn etholiad, gyflwyno papurau enwebu erbyn 4pm ar 5 Ebrill.

Bydd y rhestr o ymgeiswyr yn Nhorfaen ar gael ar wefan Cyngor Torfaen ar 6 Ebrill.

Gallwch gadw  i fyny â’r holl baratoadau ar gyfer yr etholiadau ar ein gwefan, neu drwy ddilyn @torfaencouncil ar Facebook, Instagram a Twitter.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig