Croesawi mwelydd arbennig i wersylloedd chwarae hanner tymor

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Chwefror 2022
SV1

Fe wnaeth plant yn rhai o sesiynau Chwarae a Seibiant Cyngor Torfaen estyn croeso i ymwelydd arbennig yr hanner tymor hwn.

Cafodd grwpiau Blenheim, Nant Celyn, Llantarnam a Glenside a Cockerel ymweliad gan Stephen Vickers, y Prif Weithredwr newydd, i weld rhywfaint o’r gwaith y mae Gwasanaeth Chwarae’r cyngor yn ei wneud.

Cyfarfu â staff a gwirfoddolwyr a siaradodd â’r plant fel rhan o’r sesiynau a gynigir yn ystod gwyliau’r ysgol ochr yn ochr â gwersylloedd chwarae a lles eraill.

Meddai Stephen: “Mae yna rai dyddiau yn eich bywyd y byddwch chi bob amser yn eu cofio, roedd heddiw yn un ohonyn nhw. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n llwyr gan waith y Gwasanaeth Chwarae.

Fe wnaeth dros 600 o blant gymryd rhan yn y gwahanol sesiynau trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys mwy nag 80 o blant ag anableddau.

Cyflwynwyd y gwersylloedd diolch i tua 90 o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr a drefnodd weithgareddau fel gemau, chwaraeon a sioeau doniau.

Dywedodd Julian Davenne, rheolwr y Gwasanaeth Chwarae: " Roeddem yn falch iawn o groesawu Stephen i weld ychydig o’r gwaith y mae ein staff a’n gwirfoddolwyr gwych yn ei wneud i sicrhau bod hanner tymor mor ddifyr â phosibl, i gynifer o blant â phosibl."

I gael gwybod mwy am Wasanaeth Chwarae Torfaen a’r hyn y maen nhw’n ei gynnig, anfonwch e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk

Os oes gennych ddiddordeb i wirfoddoli gyda Gwasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen, cliciwch yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/02/2022 Nôl i’r Brig