Cyngor yn chwilio am Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Chwefror 2022

Mae cyngor Torfaen yn dyrannu £25,000 i hyfforddi a chefnogi chwe pherson o blith grwpiau cymunedol lleol a’r sector gwirfoddol i ddod yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.

Mae hwn yn un o naw prosiect a ariennir o gronfa adfer £1.2 miliwn y cyngor i adfer yn dilyn Covid, i helpu cymunedau Torfaen i wella o effeithiau'r pandemig.

Bydd y prosiect Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn golygu y bydd y cyngor yn gweithio gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru ym Mlaenafon a Chynghrair Gwirfoddol Torfaen i gyflwyno'r hyfforddiant iechyd meddwl i'r gymuned.

I ddechrau mae'r prosiect am hyfforddi 6 o bobl o blith grwpiau cymunedol a'r sector gwirfoddol a fydd wedyn yn ymrwymo i barhau i ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.

O'r chwe ymgeisydd llwyddiannus, bydd tri yn cael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl i oedolion a thri yn cael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl i bobl ifanc.

I dderbyn yr hyfforddiant am ddim mae'n rhaid i bob hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ymrwymo i hyfforddi 22 o bobl leol pellach sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda chymorth cyntaf iechyd meddwl.

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion yn Nhorfaen: "Fel rhywun sy’n angerddol iawn dros iechyd meddwl, rwy'n falch iawn o weld y fath fuddsoddi mewn creu mwy o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl.

"Ar adeg pan mae ein lles wedi mynd yn drech na chi, mae’n bwysicach nag erioed inni allu cefnogi ein gilydd.

"Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn helpu i roi'r sgiliau a'r technegau angenrheidiol i hyfforddeion allu cefnogi oedolion a phobl ifanc sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.

"Unwaith y byddant wedi darparu'r hyfforddiant am ddim, gall y grŵp cymunedol neu sefydliad trydydd sector godi tâl i ddarparu'r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a darparu hyfforddiant o fewn eu sefydliadau eu hunain a fydd yn ehangu nifer y bobl leol sydd â'r arbenigedd i helpu."

Dywedodd Mark Sharwood, swyddog arweiniol Torfaen: "Mae'r pum diwrnod i hyfforddi'r hyfforddwyr yn cael eu darparu ar-lein a bydd yr hyfforddiant cymunedol yn cael ei ddarparu ar-lein hefyd i ddechrau.

"Unwaith y byddant wedi cyflwyno dwy sesiwn hyfforddi ar-lein, gallant ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol i gynnig y sesiynau wyneb yn wyneb. Fel hyn gallwn adeiladu rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl gynaliadwy i gefnogi pobl yn Nhorfaen."

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt Arweinydd Cyngor Torfaen: "Nod ein cronfa adfer yn dilyn Covid yw cefnogi cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan ddwy flynedd o helbul yn dilyn pandemig byd-eang, a maes allweddol i fynd i'r afael ag ef yw'r effaith ar iechyd meddwl pobl."

I gael mwy o fanylion ac i fynegi diddordeb anfonwch e-bost at director@mhfawales.org

I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau ewch i wefan Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl | CCIM Cymru. Y dyddiad cau i geisiadau yw 18 Mawrth 2022.

 

Rhaid i bob ymgeisydd ateb YDW,YDY, GALLAF, OES i’r cwestiynau canlynol:

  • Ydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli i grŵp cymunedol neu fudiad trydydd sector?
  • Ydych chi'n 18 oed o leiaf?
  • A yw eich sefydliad yn gweithio yn Nhorfaen?
  • A allwch chi ymrwymo i bum diwrnod yn olynol o hyfforddiant o 25 – 29 Ebrill?
  • A fydd eich sefydliad yn eich rhyddhau ar gyfer yr hyfforddiant pum niwrnod?
  • Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, a allwch chi ymrwymo i hyfforddi 22 o bobl yn rhad ac am ddim i ddechrau?
  • A oes gan eich sefydliad yswiriant o ran cyflwyno'r hyfforddiant hwn?
Diwygiwyd Diwethaf: 24/02/2022 Nôl i’r Brig