Gwaith hanfodol i dynnu coed

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Chwefror 2022
Cwmbran drive ash dieback

Bydd rhan o Cwmbran Drive yn cau ar dri dydd Sul yn olynol o’r penwythnos hwn er mwyn mynd ati’n ddiogel i dynnu coed sydd wedi eu heintio.

Mae’r Coed Ynn Cyffredin rhwng cylchfan Parkway a chylchfan Rougemont wedi eu heintio â chlefyd Coed Ynn, sy’n lladd coed ac yn eu gwneud yn ansefydlog. Tra y bydd y coed ynn heintiedig yn cael eu tynnu oddi yno, bydd coed eraill sy’n tyfu i mewn i barth diogelwch y briffordd hefyd yn cael eu tynnu.

Bydd yr heol ar gau rhwng 7am a 4pm ddydd Sul 27 Chwefror, dydd Sul 6 Mawrth a dydd Sul 13 Mawrth, a bydd llwybrau dargyfeirio ar waith.

Mae’r gwaith yn cael ei gwblhau nawr cyn y tymor nythu, a hynny yn dilyn cyngor gan ecolegydd Cyngor Torfaen. Bydd y contractwyr hefyd yn edrych am dystiolaeth bod adar wedi dechrau nythu’n gynnar, cyn iddo ddechrau tynnu coed.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, aelod gweithredol dros yr amgylchedd: “Nid ydym yn hoffi cael gwared ar goed oni bai bod yn rhaid i ni wneud hynny oherwydd eu manteision niferus.

“Yn anffodus, mae coed ynn ar hyd Cwmbrân Drive bellach yn ansefydlog oherwydd clefyd coed ynn, felly mae’n rhaid i ni gael gwared arnynt i gadw’r briffordd a defnyddwyr y briffordd yn ddiogel. Oherwydd natur clefyd coed ynn, nid ydym yn siŵr pryd yn union y bydd canghennau’n dechrau cwympo, felly rydym yn gweithredu’n rhagweithiol i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd.

“Bydd cael gwared ar y coed hyn yn ysgogi tyfiant y rhywogaethau eraill sydd ar ôl, gan arwain at newid canopi’r coed dros ychydig flynyddoedd. Mewn achosion fel hyn, ni fyddai angen ailblannu'r coed coll. Fodd bynnag, os caiff bylchau mawr eu creu, efallai y byddwn yn ystyried plannu coed newydd o rywogaeth briodol.

“Rydyn ni’n gwybod pa mor angerddol yw rhai o’n trigolion am fioamrywiaeth felly rwyf am eich sicrhau nad yw’r penderfyniad i dynnu’r coed hyn ar hyd Cwmbrân Drive wedi bod yn un hawdd.”

 

Diwygiwyd Diwethaf: 24/02/2022 Nôl i’r Brig