Offer chwarae cynhwysol i gael ei osod mewn dau barc yn y fwrdeistref

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 17 Chwefror 2022

Bydd offer chwarae yn cael ei osod ym Mharc Pont-y-pŵl a Llyn Cychod Cwmbrân er mwyn gwneud y mannau chwarae hynny’n fwy addas i’r rheiny ag anableddau corfforol, gan gynnwys namau synhwyraidd.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys cynyddu maint man chwarae Parc Pont-y-pŵl i gynnwys gofod synhwyraidd mwy cynhwysol, a gwneud parc Llyn Cychod Cwmbrân yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac eraill sy’n cael yr offer presennol yn anodd ei ddefnyddio.

Ond cyn gosod unrhyw offer, hoffai’r cyngor wybod pa offer cynhwysol yr hoffai trigolion ei weld.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae cael parciau chwarae cynhwysol yn y fwrdeistref mor bwysig i iechyd a lles plant, ac rydym yn gobeithio  y bydd gan fwy o’n parciau offer cynhwysol yn y dyfodol.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld pa opsiynau bydd y cyhoedd yn dewis, felly cymerwch ran yn yr ymgynghoriad a rhannwch e gyda ffrindiau a theulu.”

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau: “Mae mannau chwarae synhwyraidd yn arbennig o fuddiol i blant sy’n cael trafferth gyda symud, gweld a theimlo.

“Bydd yr offer chwarae newydd yma’n golygu bod plant i gyd yn gallu chwarae yn yr un parc ar yr un adeg.  Does dim ots a oes gennych chi anabledd ai peidio, chwarae yw chwarae, ac rwy’n edrych ymlaen at weld effaith yr offer chwarae yma ar blant a’u teuluoedd

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd y cyngor: “Bwriad mannau chwarae cynhwysol yw rhoi cyfleoedd i blant i gyd i chwarae ac mae’n cymryd i ystyriaeth mynediad corfforol, ffactorau cymdeithasol, nodweddion synhwyraidd a gwerth chwarae.

“Daw’r arian ar gyfer y prosiect yma o Gronfa Adferiad ar ôl Covid sy’n ceisio ymateb i amrywiaeth o effeithiau negyddol y pandemig, ac yn arbennig mae’n ceisio gwella’r amgylchedd lleol a mynd i’r afael â’r effeithiau ar bobl ifanc ac anghydraddoldebau.”

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar Barc Pont-y-pŵl a Llyn Cychod Cwmbrân i gychwyn oherwydd mae yno eisoes barcio i’r anabl, cyfleusterau toiled a mynediad gwastad ar y ddau safle.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd cerflun rheng flaen Pont-y-pŵl yn cael ei symud yn nes at yr eisteddle i wneud lle ar gyfer y man chwarae mwy.  Mae trafodaethau’n digwydd ynglŷn â’r union leoliad.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i https://getinvolved.torfaen.gov.uk/pssu/creu_mannau_chwarae_cynhwysol_yn_nhorfaen

Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw dydd Sul 6 Mawrth.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/10/2022 Nôl i’r Brig