Siop ailddefnyddio elusennol yn teimlo'r cariad

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 15 Chwefror 2022

Mae siop ailddefnyddio newydd yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd yn boblogaidd iawn gyda thrigolion ers iddi agor yn Rhagfyr.

Yn Ionawr, cafodd dros 3,100 o eitemau cartref eu hailddefnyddio yn hytrach na'u hailgylchu neu eu troi i mewn i ynni diolch i The Steelhouse.

Agorodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Amgylchedd The Steelhouse yn swyddogol ar ddydd Sant Ffolant, gan gyhoeddi ei bod yn “llwyddiant mawr gyda thrigolion”.

“Gan ei fod yn Ddiwrnod Sant Ffolant, roedden ni’n meddwl y byddai’n briodol ddathlu’r cariad sydd gan bobl tuag at y siop yma.

“Nid yn unig mae’r siop yn lle da i gael bargen, mae’n dda i’r blaned hefyd gan ein helpu i gyrraedd targedau ailgylchu ac ailddefnyddio a rhoi cyfle i drigolion weld eitemau y maen nhw’n cael gwared ohonynt yn mynd i gartref newydd” dywedodd.

Mae’r siop yn helpu’r cyngor i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 o gyfradd ailgylchu o 70%. Mae’r siop eisoes wedi dargyfeirio dros bum tunnell fetrig o ddeunyddiau’r cartref ers iddi agor fis Rhagfyr.

Mae The Steelhouse yn cael ei rhedeg gan yr elusen leol, Wastesavers, mewn partneriaeth â FCC Environment a’r cyngor, ac mae ganddi gefnogwyr teyrngar eisoes.

Mae Ross Channing a’i bartner, Melissa Hughes (llun) yn ymwelwyr rheolaidd.

Dywedodd Ross; "Rydym yn dod i The Steelhouse trwy’r amser ac rydym wrth ein bodd yma. Rydym yn hoffi’r syniad o ailddefnyddio.  Mae yna gymaint o bethau yn y siop ac amrywiaeth o bethau gwahanol. Rydym hefyd yn hoffi’r syniad bod pob dim yn cael ei gadw rhag mynd i’w gladdu, sy’n beth gwych.”

“Mae pob dim ar werth am bris rhesymol ac yn addas i boced pawb,” ychwanegodd Melissa. “Mae’n werth ymweld … galwch heibio i gael bargen." 

Mae Rob Pearce, rheolwr y siop, yn hyderus y bydd y siop yn tyfu wrth i ragor o bobl glywed amdani.

“Rydym eisoes yn gweld pobl yn dod yn rheolaidd ac rydym yn diwallu angen sy’n amlwg yn bod,” esboniodd. “Dyw pawb ddim yn gallu fforddio £20.00 am degell newydd, ond gall y rhan fwyaf fforddio £3.00.

“Mae pob rhiant â phlant bach yn gwybod beth yw cost teganau, ond mae cannoedd gyda ni yma am bris isel ac yn aros am berchennog newydd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau FCC Environment, Steve Longdon: “Rydym yn gweithio’n galed i ailgylchu cymaint ag sy’n bosibl o’r gwastraff sy’n dod i’n safleoedd, ond ers peth amser, rydym wedi bod yn ymwybodol y gallai nifer o’r eitemau sy’n dod yma fod â bywyd ynddyn nhw o hyd.

"Rydym yn falch o weld cymaint o eitemau yn cael cartref newydd a bod The Steelhouse a staff wrth y sgipiau yn llwyddo i arbed cymaint o “drysorau o’r domen!”

Diwygiwyd Diwethaf: 16/02/2022 Nôl i’r Brig