Torfaen i dreialu canolfan pleidleisio ymlaen llaw

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Chwefror 2022
VOTING GRAPHIC ADVANCE CYM

Bydd trigolion yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau lleol eleni, y penwythnos cyn y diwrnod pleidleisio.

Mae Cyngor Torfaen yn un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o hyblygrwydd i bleidleiswyr o ran sut a phryd y maent yn pleidleisio.

Bydd pobl o bob rhan o’r fwrdeistref yn gallu ymweld â chanolfan pleidleisio ymlaen llaw yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn 30 Ebrill a dydd Sul 1 Mai, rhwng 10am a 4pm.

Ni fydd angen i chi gael eich cerdyn pleidleisio wrth law, ond byddai’n helpu i gyflymu'r broses bleidleisio.

Bydd system electronig ar waith ym mhob gorsaf bleidleisio a fydd yn galluogi staff i sganio cardiau i ddosbarthu pleidleisiau.

Mae’n golygu y bydd pedwar cyfle i drigolion lleol bleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai:

  • Drwy’r post. I wneud cais cliciwch yma. Rhaid gwneud cais erbyn dydd Mawrth 19 Ebrill. 
  • Drwy ddirprwy. I wneud cais cliciwch yma.  Rhaid gwneud cais erbyn dydd Mawrth 26 Ebrill.
  • Canolfan Pleidleisio Ymlaen Llaw, Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl, dydd Sadwrn 30 Ebrill -dydd Sul 1 Mai.
  • Eich canolfan bleidleisio leol, dydd Iau 5 Mai.

Bydd cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili a Phen-y-bont  hefyd yn cynnal canolfannau pleidleisio ymlaen llaw yn rhan o’r cynllun peilot.

Dywedodd Caroline Genever-Jones, rheolwr etholiadau Cyngor Torfaen: "Diben y cynllun peilot yw gweld a fedrwn ni wneud pethau’n haws i bobl bleidleisio drwy gynnig hyblygrwydd o ran pryd a ble y gallwch bleidleisio. Bydd y cynllun yn dod â’r blwch pleidleisio yn nes at fywydau dyddiol y bobl.

"Bydd dirprwyon ac unrhyw un sy’n troi’n 16 oed rhwng dydd Llun 2 Mai a’r diwrnod pleidleisio ddydd Iau 5 Mai hefyd yn gallu pleidleisio ymlaen llaw yn y ganolfan.

"Waeth pa ffordd y byddwch yn pleidleisio, ar un achlysur yn unig y cewch chi bleidleisio. Mae eich pleidlais hefyd yn un derfynol: ar ôl i chi fwrw’ch pleidlais, ni chewch newid eich meddwl ar ddiwrnod pleidleisio diweddarach."

Rhaid i drigolion sy'n dymuno pleidleisio yn yr etholiadau lleol fod ar y gofrestr etholiadol erbyn dydd Iau 14 Ebrill.

Gall unrhyw un dros 14 oed gofrestru a gall unrhyw un dros 16 oed bleidleisio. I gofrestru, ewch i www.gov.uk/register-to-vote.

Ansicr a ydych ar y gofrestr? Rydym yn anfon Llythyrau Hysbysu i bob cartref yn Nhorfaen i sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym ar y gofrestr etholiadol yn gywir, neu gallwch gysylltu â’n tîm etholiadau ar voting@torfaen.gov.uk a gallant gadarnhau a ydych chi wedi cofrestru.

Mae dal i fod amser i sefyll fel ymgeisydd. I gofrestru a gofyn am becyn enwebu, anfonwch e-bost i candidates@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 7622002. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 1 Ebrill. 

Mynnwch y diweddaraf am yr holl ddyddiadau allweddol ar gyfer yr etholiad drwy ddilyn #EtholiadauLleolTorfaen2022 a #dweuddyddweud ar Facebook, Instagram a Twitter.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/02/2022 Nôl i’r Brig