Marchnad bwyd a chrefft newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Chwefror 2022

Mae marchnad bwyd a chrefft fisol newydd yn dod i Bont-y-pŵl.

Bydd marchnad Crefftwr ym Maes y Baedd yn cynnwys amrywiaeth o fasnachwyr lleol yn gwerthu bwyd traddodiadol, diodydd a chrefftau wedi’u creu gan law ym Marchnad dan do Pont-y-pŵl ar y dydd Sadwrn cyntaf o bob fis.

Mae'r enw’n dathlu hanes y farchnad dan do, fe ddechreuodd fel marchnad awyr agored wythnosol yn 1846 ar safle elwid yn Faes Glas y Baedd yn flaenorol.

Y gobaith ydy, bydd y marchnadoedd misol newydd, a drefnir gan Gyfeillion Tref Pont-y-pŵl ac a gefnogir gan Gyngor Torfaen, mor boblogaidd â digwyddiad Nadolig y farchnad dan do, a oedd yn cynnwys mwy na 30 stondin crefft, cerddoriaeth fyw ac adloniant i blant.

Dywedodd Nikola Masters, Cadeirydd Cyfeillion Tref Pont-y-pŵl, “Ar ôl llwyddiant y digwyddiad Nadolig rydym mor gyffrous i groesawu pobl yn ôl i ganol y dref i fwynhau popeth sydd gan Bont-y-pŵl i’w gynnig, gan wneud y digwyddiad marchnad dydd Sadwrn yn ddigwyddiad mwy rheolaidd yn y dyfodol agos.

"Llynedd, ynghyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fe wnaethom sicrhau cyllid trwy Gronfa Busnes Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf o 2022 ac mae'n parhau â'r prosiect dechreuodd gyda digwyddiad y Nadolig i ddod â chyffro a busnes yn ôl i'r dref. 

“Mae’r cyllid yn barod i adfywio tref farchnad llawn hanes a chwaraeodd ran bwysig ym mywydau beunyddiol ein cymunedau lleol, darparu mwy o gyfleoedd i fusnesau lleol a chreu ardaloedd cynaliadwy er mwyn i bobl fyw a gweithio.”

Cynghorydd Joanne Gauden , Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae’n wych gweld hanes Pont-y-pŵl yn cael ei gofio mewn ffordd sy’n dod â masnachwyr, trigolion ac ymwelwyr gyda'i gilydd.

“Roedd digwyddiad y Nadolig ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn llwyddiant ysgubol ac rwy’n siŵr y bydd y farchnad fisol hon yn dod yn ddyddiad allweddol yng nghalendrau llawer o bobl yn fuan.”

Cynhelir y farchnad Crefftwr ym Maes y Baedd cyntaf rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn 12 Chwefror ac mae mynediad am ddim. I gael rhagor o wybodaeth am farchnad Crefftwr ym Maes y Baedd, ewch i dudalen Facebook Cyfeillion Tref Pont-y-pŵl.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 04/02/2022 Nôl i’r Brig