Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022
Mae dau brosiect natur sy’n ceisio gwella bioamrywiaeth ar draws y rhanbarth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr fawreddog.
Cyrhaeddodd prosiect Natur Wyllt a thîm partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent y rhestr fer am wobr rhagoriaeth a gwobr cydweithredu yng Ngwobrau’r Sefydliad Tirwedd, y mis diwethaf.
Daethon nhw’n ail yn y ddau gategori, gan guro dros 200 o brosiectau o’r DU a thramor.
Mae prosiect Natur Wyllt yn ceisio datblygu dull cydgysylltiedig o reoli mannau gwyrdd er mwyn creu ardaloedd blodau gwyllt ar draws Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Mae’n ceisio hefyd codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd peillwyr, fel gwenyn a chacwn, i hybu bioamrywiaeth a thaclo newid yn yr hinsawdd.
Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn fenter gydweithredol ranbarthol sy’n anelu at wella a datblygu seilwaith gwyrdd - rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled naturiol a mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n cysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd, yn ogystal â helpu i gefnogi cyfleoedd am swyddi.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Roedd yn gyffrous bod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a phrosiect Natur Wyllt wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yn Llundain, gan gael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu ar lefel genedlaethol. Roedd yn dyst i’r holl waith caled bod y prosiectau wedi dod yn ail yn eu categorïau.
“Mae dulliau’r ddau yn allweddol wrth ddiogelu a gwella’n tirweddau arbennig, datblygu seilwaith gwyrdd a helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a heriau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn ffodus bod gennym bobl broffesiynol mor ardderchog yn ogystal â thirwedd mor drawiadol i weithio â hi.”
Cefnogir y ddau brosiect gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac fe’u hariannir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru
Os hoffech chi ddysgu mwy am y prosiectau yma, dilynwch y dolenni yma Gwent Green Grid Partnership - Monlife
Natur Wyllt
Gallwch weld sut allwch chi gymryd rhan yn y Bartneriaeth Natur Leol trwy fynd at ein gwefan.