Gohirio casgliadau gwastraff o'r ardd am bythefno

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Awst 2022

O ddydd Llun Gŵyl y Banc, bydd Cyngor Torfaen yn gohirio casgliadau Gwastraff Gardd am bythefnos, o ddydd Llun 29 Awst tan ddydd Gwener 9 Medi.

Bydd y penderfyniad i ohirio casglu gwastraff gwyrdd yn caniatáu i'r cerbydau sydd fel arfer yn casglu gwastraff o'r ardd, a'r criwiau hynny, helpu i adfer casgliadau bwyd a chardbord yr amharwyd arnynt yn y tymor byr.

Yn ystod pythefnos nesaf bydd y cyngor yn llogi 8 cerbyd bach ychwanegol yn benodol ar gyfer bwyd a chardbord ac yn recriwtio 3 gyrrwr arall a 6 llwythwr i ddechrau gweithio o ddydd Llun 12 Medi ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Amharwyd yn sylweddol ar ein casgliadau bwyd a chardbord ers peth amser oherwydd cerbydau annibynadwy. Mae oedran y fflyd wedi arwain at lorïau yn torri i lawr yn aml a bod oddi ar y ffordd wrth i'n mecanyddion frwydro i ddod o hyd i rannau a'u trwsio.

"Roedd y fflyd bresennol i fod i gael ei datgomisiynu yn ystod 2023 ond mae'r cerbydau bellach yn methu mor aml mae'n cael effaith andwyol ar wasanaeth y mae trigolion yn dibynnu arno. Mae hefyd yn golygu cost ychwanegol i drwsio'r cerbydau ac mae'n effeithio ar forâl staff sy'n gweithio'n eithriadol o galed i geisio dal i fyny yn ddyddiol.

"Mae'r Cyngor yn ymddiheuro i'n holl drigolion a fydd yn methu un casgliad gwastraff gwyrdd yn unig, ond mae angen gweithredu nawr.  Mae'r cyfnod hir o dywydd sych hefyd wedi gweld cwymp sylweddol yn swm y gwastraff gardd sy'n cael ei gasglu felly mae'r pythefnos yma yn cynnig ffenest o gyfle i ddychwelyd y gwasanaeth i'r arfer."

Bydd casgliadau gwastraff gardd yn ailddechrau ddydd Llun, 12 Medi.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/08/2022 Nôl i’r Brig