Ehangu cymorth gofal plant i deuluoedd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Awst 2022
Flying start 4

Mae rhaglen sy'n cefnogi teuluoedd gyda phlant ifanc sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn cael ei ehangu.

Bydd cynllun Dechrau'n Deg yn Abersychan yn cael ei ehangu o fis Medi, gan ddarparu cymorth blynyddoedd cynnar i fwy na 140 o blant rhwng o’u genedigaeth i bedair oed.

Mae disgwyl hefyd y bydd cynllun ar wahân i ddatblygu darpariaeth Dechrau'n Deg ym Mlaenafon yn golygu y bydd 90 o blant ychwanegol hefyd yn gallu cael mynediad i'r gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Addysg: "Mae hwn yn newyddion cyffrous iawn i Dorfaen a gweddill Cymru, yn enwedig mewn cyfnodau o galedi mawr.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun Dechrau'n Deg a gofal plant ar gyfer plant dwy oed hyd yn oed ymhellach i fwy o gymunedau yn Nhorfaen."

Dechrau'n Deg yw rhaglen y Blynyddoedd Cynnar wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd gyda phlant dan bedair oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Ei nod yw rhoi'r dechrau gorau posib i blant mewn bywyd trwy weithio gyda theuluoedd o'r cyfnod cynenedigol hyd at pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol.

Ar hyn o bryd mae tua 1,100 o blant a'u teuluoedd eisoes yn cael mynediad at gymorth Dechrau'n Deg yn Nhorfaen, sy'n cynnwys gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell, dosbarthiadau cyn-geni, mynediad at grwpiau magu plant a help i gefnogi plant i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae'r gwasanaeth Dechrau'n Deg hefyd yn cynnig lleoedd mewn cylchoedd chwarae a gofal plant.

O fis Medi ymlaen, bydd modd i deuluoedd mewn ardaloedd Dechrau'n Deg gael hyd i 12.5 awr o ofal plant wedi'i gyllido i blant o'r tymor ar ôl iddynt droi'n ddwy oed.

Y gobaith yw y bydd gofal plant sy'n cael ei ariannu yn cael ei ddarparu i bob plentyn dwy a thair oed ar draws y fwrdeistref o fewn y blynyddoedd nesaf. 

Cysylltir â theuluoedd sy'n byw yn un o ardaloedd newydd Dechrau'n Deg drwy lythyr yn ystod yr wythnosau nesaf.

I gael gwybodaeth am y cymorth a chefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd ledled Torfaen, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen ar 0800 0196330.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/09/2022 Nôl i’r Brig