Llysgenhadon hinsawdd yn canolbwyntio ar deithio llesol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Ebrill 2022

Cyfarfu llysgenhadon hinsawdd cymunedol â chynrychiolwyr o Gyngor Torfaen yr wythnos yma i drafod cynlluniau i gynyddu teithio llesol yn y fwrdeistref.

Amlinellodd y Swyddog Strategaeth Diogelwch y Ffyrdd, Pat Bates, yr hyn mae’r cyngor wedi gwneud i wella ffyrdd teithio llesol ers cyflwyno Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ac amlinellodd gynlluniau’r awdurdod am y pum mlynedd nesaf.

Yn ystod y cyflwyniad, dywedodd Pat: “Ers 2017 mae’r cyngor wedi creu llwybrau cerdded a seiclo newydd, wedi gwella’r llwybrau a oedd yn bod eisoes ac wedi lledu palmentydd ar droetffyrdd prysur at ysgolion.

“Uchelgais ein cynllun tymor hir yw ychwanegu 75 milltir at y rhwydwaith teithio llesol yn Nhorfaen.  Bydd hyn yn golygu adeiladwaith newydd ac uwchraddio llwybrau, gan barhau i wella llwybrau gydag ymylon palmant isel i’w gwneud yn gwbl hygyrch, a gweithio gydag ysgolion i ddiweddaru cynlluniau teithio ysgolion i’w gwneud yn gynlluniau teithio llesol i ysgolion.

“Mae posibilrwydd o gynllun rhanbarthol llogi beiciau y mae Trafnidiaeth Cymru’n ymchwilio iddo, felly mae cryn dipyn o drafodaeth yn y cefndir.”

Trafodwyd effaith y pandemig a’r rhyfel yn Wcráin ar gost deunyddiau y mae eu hangen i wella ffyrdd a faint o ddeunyddiau sydd ar gael hefyd a chafodd y llysgenhadon gyfle i ofyn cwestiynau am y strategaeth bresennol a siarad am eu profiadau eu hunain o gerdded a seiclo o gwmpas y fwrdeistref.

Dywedodd Patrick Jarvis, o Flaenafon, sy’n seiclwr brwd: "Rhoddodd y cyfarfod fewnwelediad i o agwedd Cyngor Torfaen at deithio llesol.  Rhoddodd syniad gwell i fi o’r heriau sy’n bod, ac rwy’n gobeithio y bydd llysgenhadon hinsawdd yn gallu cynorthwyo wrth eu goresgyn.  

“Mae’r rhyfel yn Wcráin yn cael effaith fawr ar gost adeiladu seilwaith ffyrdd. Rwy’n credu bod cyfle yma i edrych ar ddulliau eraill o adeiladu rhwydweithiau teithio llesol, yn hytrach na gorchuddio pob dim ag asffalt.

“Rwy’n frwd dros deithio llesol oherwydd fy mod am leihau fy ôl-troed carbon fy hun ac mae sut yr ydw i’n teithio yn rhywbeth y gallaf newid yn hawdd,” ychwanegodd.

"Dyw dewis seiclo yn hytrach na gyrru ddim yn ddewis “gwyrdd”, mae’n synnwyr cyffredin. Mae’n arbed arian, yn gwella fy iechyd meddyliol a chorfforol, ac mae’n hwyl. Mae’n rhoi cyfle i fi hefyd i edrych o gwmpas fy ardal leol, cyfle i ymgysylltu â’r gymuned, ac yn ychwanegol mae’n llesol i’r hinsawdd.”

Dywedodd Mel Morgan, aelod o’r grŵp llysgenhadon hinsawdd: “Ces i fy ysbrydoli cymaint gan aelodau eraill y grŵp y tro diwethaf nes i mi brynu beic a’i ddefnyddio ar gyfer teithiau byr.”

Mae teithio llesol yn cyfeirio at gerdded neu seiclo ar gyfer teithiau byw, fel mynd i’r ysgol, y gwaith, at y doctor neu siopau ac mae cynyddu nifer y siwrneiau teithio llesol yn Nhorfaen yn flaenoriaeth i’r rhwydwaith llysgenhadon hinsawdd.

Dysgwch fwy am deithio llesol yn Nhorfaen.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â rhwydwaith llysgenhadon hinsawdd Torfaen, danfonwch e-bost at cath.cleaves@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 11/04/2022 Nôl i’r Brig