Gwyddau yn setlo yn eu cartref newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 12 Ebrill 2022
Geese montage (5)

Mae’r ddwy ŵydd sydd wedi eu symud o’r gamlas ar ôl cwynion ynglŷn ag ymddygiad ymosodol yn setlo i mewn yn eu cartref newydd.

Roedd y gwyddau domestig yn rhan o grŵp o naw y credir iddynt gael eu gadael ar y gamlas yn Nwy Loc, Cwmbrân, rhyw dair blynedd yn ôl.

Yn anffodus dros yr ychydig wythnosau diwethaf, derbyniodd Cyngor Torfaen nifer o adroddiadau bod dwy o’r gwyddau yn ymosod ar bobl, gan gynnwys menyw 86 oed gwympodd wrth geisio dianc.

Ar ôl ystyried y perygl posibl a gynrychiolai’r gwyddau i drigolion ac iddyn nhw eu hunain, cymerwyd penderfyniad i symud y gwyddau er eu diogelwch eu hunain a diogelwch defnyddwyr y gamlas.

Casglodd cwmni rheoli pla lleol, sydd hefyd yn rhedeg gwasanaeth casglu anifeiliaid ac sydd â phrofiad o drin adar yn ddiogel, y gwyddau ar 6 Ebrill ac fe’u symudwyd i dyddyn bychan yn y fwrdeistref, lle byddant yn aros. 

Meddai Daniel Morelli, Pennaeth Amddiffyn Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Torfaen: "Rydym yn deall bod rhai trigolion yn ypsét ynglŷn â’r penderfyniad i ail-gartrefi’r gwyddau ac rydym eisiau eu sicrhau mai eu diogelwch a’u lles nhw oedd y flaenoriaeth drwy’r amser.

"Roeddem yn bryderus ynglŷn ag adroddiadau o bobl yn cael eu hanafu gan y gwyddau ac roeddem eisiau rhwystro unrhyw un arall rhag cael eu niweidio ac i rwystro anaf i’r gwyddau.

"Rydym wedi defnyddio cwmni sydd â phrofiad o drin adar yn ddiogel, ac mae un o’n swyddogion wedi ymwelodd â’r gwyddau yn eu cartref newydd ddoe.Rydym yn falch eu bod yn setlo’n dda. Gwnaed ymholiadau gyda nifer o elusennau anifeiliaid i gasglu ac ail-gartrefu’r gwyddau ond ni allai’r un ohonynt dderbyn yr adar ar hyn o bryd.

"Gan eu bod wedi eu hail-gartrefu gyda phreswylydd preifat ar eu tyddyn bach, ni allwn ddatgelu’r union leoliad, ond gallwn sicrhau trigolion eu bod yn ddiogel ac yn iach. Mae gan y gwyddau ddigon o le yn eu cartref naturiol newydd, gan gynnwys pwll mawr.  

"Mae’r saith gŵydd arall yn aros ar y gamlas a hoffem ddiolch i drigolion lleol am gadw llygad arnyn nhw a sicrhau eu bod yn iawn."

Diwygiwyd Diwethaf: 13/04/2022 Nôl i’r Brig