Cystadleuaeth greadigol i ysgolion cynradd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Ebrill 2022

Bydd Cyngor Torfaen yn derbyn dau gerbyd gwastraff trydan fis Mai, ac rydym am i blant ysgol eu henwi nhw.

Y lorïau newydd, a fydd yn casglu’r biniau clawr porffor,  fydd y cerbydau gwastraff trydan cyntaf yn y fwrdeistref.

I ddathlu eu bod yn cyrraedd, bydd dau ddisgybl yn ennill cyfle i enwi lori a model Lego, a bydd gwobr hefyd i’w cyd-ddisgyblion.

Buddsoddi mewn cerbydau gwastraff trydan yw un o’r nifer o ffyrdd y mae’r Cyngor yn ceisio bod yn sero carbon net erbyn 2030, ac i’r fwrdeistref fod yn sero carbon net erbyn 2050.

Bydd un enillydd yn cael eu dewis o ddwy ysgol gan banel o feirniaid. Bydd yr enillwyr yn derbyn bag o wobrau ac yn cael cyfle i ymweld ag ystafell ddosbarth symudol rhyngweithiol gyda’u cyd-ddisgyblion.

Gall plant gyflwyno’u ceisiadau trwy eu hysgolion.  Bydd y beirniaid yn chwilio am enwau sy’n canolbwyntio ar fanteision amgylcheddol y cerbydau newydd.  

Gallwch ddysgu mwy am ailgylchu a gwastraff yn Nhorfaen.

Dysgwch fwy am sut mae’r Cyngor yn ymateb i’n datganiad argyfwng natur a newid yn yr hinsawdd 

Diwygiwyd Diwethaf: 08/04/2022 Nôl i’r Brig