Fferm Gymunedol Greenmeadow

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn gyrchfan i ymwelwyr yng nghanol Cwmbrân.

Mae’r fferm, sydd ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, yn gartref i fwy nag 20 o wahanol rywogaethau o anifeiliaid sy’n cynnwys bridiau brodorol a phrin. Mae gennym fannau Chwarae Antur dan do ac awyr agored.

Mae’n ddiwrnod perffaith i'r’ teulu oll i grwydro yn yr awyr agored, chwarae a dysgu am anifeiliaid, bwyd a ffermio. 

Bu’r fferm sy’n eiddo i’r cyngor, yn destun trawsnewidiad mawr, ac ail agorodd ym mis Medi 2025 yn dilyn prosiect gwerth miliynau o bunnoedd a oedd yn cynnwys gwaith adnewyddu helaeth i adeiladau, datblygu ysgubor Chwarae Antur dan do newydd a chreu cyfleusterau newydd sbon i’r anifeiliaid.  

Yn ogystal, gosodwyd system pwmp gwres o’r ddaear o’r radd flaenaf ar y safle, diolch i grant gwerth £1.56m gan Lywodraeth Cymru.  

Cwrdd â’r anifeiliaid

Gall ymwelwyr ddod wyneb yn wyneb â’u hoff gyfeillion blewog, o ddefaid, gwartheg a geifr o wahanol fridiau brodorol a phrin, i alpacas ac asynnod. 

Bydd cyfle i roi ambell i gwtsh i’r anifeiliaid bach yn y Gornel Cwtshys, dilyn llwybrau drwy gaeau’r anifeiliaid i weld yr ieir, cwningod a geifr, a galw heibio Ysgubor yr Anifeiliaid. 

Mae’r gweithgareddau dyddiol yn cynnwys bwydo’r anifeiliaid a’u twtio, a gwylio’r godro.  

Chwarae Antur  

Daw holl anturiaethau’r buarth yn fyw yn y lle Chwarae Antur Dan Do, beth bynnag yw’r tywydd.  

Mae'r lle Chwarae Antur Dan Do yn llawn offer chwarae a gemau ymarferol sydd wedi eu hysbrydoli gan y fferm. Gall plant ddringo, cropian a neidio drwy dwneli, tractorau a cheffylau sbonc.  

Bydd cyfle i blethu cynffonau ceffylau a throelli olwynion, a’r cyfan oll dan lygad barcud eu rhieni wrth iddynt fwynhau seibiant yn y caffi gerllaw.  

Bwyty Bwrdd y Ffermwr  

Mae'r ffermdy gwreiddiol ar safle Fferm Gymunedol Greenmeadow yn dyddio'n ôl i 1752. Fel rhan o waith ailwampio'r fferm, ychwanegwyd tŷ gwydr derw trawiadol i'r adeilad, gan gynyddu nifer y seddi yn y caffi i 90.  

Mae gan Fwyty Bwrdd y Ffermwr drwydded lawn i werthu alcohol ac mae’n gweini brecwast, cinio a byrbrydau, gyda ffocws ar fwydlenni sy’n cynnig cynnyrch o ffynonellau lleol.  

Mae’r bwyty ar agor i’r cyhoedd, nid yn unig i ymwelwyr â’r fferm, ac mae croeso i gŵn bach da ar dennyn.  

Hygyrchedd

Mae gwella hygyrchedd wedi bod yn rhan bwysig o waith trawsnewid Greenmeadow. 

Mae llwybrau ar draws y fferm wedi'u hailraddio a chael arwyneb newydd, sy’n golygu bod mwy o ardaloedd ar y fferm yn hygyrch i fwy o bobl.  

Mae'r safle yn croesawu cŵn, ac mae digon o lwybrau cerdded o amgylch y fferm, fel y gall pawb fwynhau. 

Yn ogystal ag uwchraddio llwybrau, ychwanegwyd lifft a thoiledau hygyrch sy’n cynnwys cyfleusterau newid cewynnau â theclyn codi.  

Ewch i www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk

 

Diwygiwyd Diwethaf: 30/01/2026 Nôl i’r Brig