Treth y Cyngor - hysbysu ynglŷn â deiliadaeth
Os ydych o’r farn na ddylech orfod talu premiwm ar eich eiddo gan fod rhywun yn byw ynddo fel eu prif gartref neu unig gartref, yna bydd gofyn i chi lenwi ffurflen Treth y Cyngor – hysbysu ynglŷn â deiliadaeth fel y gallwn ddiweddaru’n cofnodion.
Bydd gofyn i chi roi enwau llawn pob oedolyn sy’n byw yn yr eiddo i ni, ynghyd â’r dyddiad yr oeddent wedi symud i fyw yno yn ogystal â phrawf o’u preswyliad (er enghraifft biliau cyfleustodau, cytundeb tenantiaeth neu drwydded yrru).
Treth y Cyngor - hysbysu ynglŷn â deiliadaeth
Os ydych am i'r adroddiad hwn gael ei gofnodi yn erbyn eich proffil cwsmer, a fyddech cystal â naill ai mynd ati i greu cyfrif trwy glicio 'cofrestru nawr' neu nodwch eich manylion presennol os oes eisoes gennych gyfrif. Fel arall, os byddai'n well gennych barhau heb fewngofnodi, cliciwch 'cyflwyno adroddiad yn ddienw'.
Diwygiwyd Diwethaf: 15/01/2026
Nôl i’r Brig