Cymorth i Bobl Ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
Bob blwyddyn mae nifer o bobl ifanc yn gadael yr ysgol ac nid ydynt yn symud ymlaen i fyd Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant. Mae’r unigolion hyn yn cael eu hystyried yn NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth a/neu hyfforddiant). I fynd i'r afael â hyn, mae'r Awdurdod Lleol, ynghyd ag asiantaethau sy’n bartneriaid, wedi rhoi nifer o brosesau ar waith i ganfod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Yna, mae’n rhoi cymorth iddynt i'w helpu i symud ymlaen i gyrchfan gadarnhaol ar ôl ysgol.
Grŵp KIT
Mae Grŵp KIT yn grŵp gweithredol amlasiantaeth sy'n ymateb i anghenion unigol pobl ifanc sy'n NEET neu sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Mae ymyriadau yn cael eu rhoi ar waith i ymgysylltu â pherson ifanc a chynigir darpariaeth briodol i gefnogi’r person ifanc sydd wedi ymddieithrio, er mwyn iddo ddychwelyd i fyd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Ysbrydoli
Mae Ysbrydoli yn brosiect gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n cefnogi pobl ifanc 11-19 oed sy'n NEET, neu sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg.
Mae staff y prosiect yn gweithio ar sail 1:1 gyda phobl ifanc ac yn rhoi cymorth pwrpasol, sy’n cael ei arwain gan anghenion i roi'r sgiliau a'r hyder i'r cyfranogwyr symud ymlaen i fyd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Mae timau sy'n gweithio mewn ysgolion yn derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan ysgolion i gefnogi pobl ifanc 11-16 oed. Gellir atgyfeirio pobl ifanc 16-19 oed sy'n NEET drwy gwblhau Ffurflen Ymholiad ac Atgyfeirio Torfaen yn Gweithio a’i dychwelyd at Lindsey.maloney@torfaen.gov.uk.
I gael mwy o wybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch ag aelod o dîm Ysbrydoli ar 07976632911 neu e-bostiwch inspire@torfaen.gov.uk. Facebook @inspire2torfaen
Mae llyfryn wedi'i greu i dynnu sylw at y llwybrau sydd ar gael i Ddisgyblion Sy’n Ymadael â’r Ysgol ym Mlwyddyn 11 yn Nhorfaen. Nodwch ei fod yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2024.
Diwygiwyd Diwethaf: 03/12/2024
Nôl i’r Brig