Gwirfoddoli

Bob blwyddyn, mae yna dros 200 o gyfleoedd i helpu timau'r cyngor i ddarparu gwasanaethau mewn cymunedau lleol.

Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a gwella eich iechyd a'ch lles.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd gyda'r timau canlynol: 

  • Dysgu i oedolion
  • Mynwentydd 
  • Mentora cymunedol
  • Timau amgylcheddol
  • Llyfrgelloedd 
  • Sbwriel ac atal tipio anghyfreithlon
  • Gwasanaeth Chwarae  
  • Gwasanaeth Ieuenctid  

Sut i wirfoddoli 

  • Ewch i wefan Cysylltu Torfaen ar gyfer y cyfleoedd diweddaraf i wirfoddoli. Bydd gwybodaeth am y rôl, gan gynnwys lleoliad a nifer yr oriau, yn cael eu cynnwys. 
  • Cwblhewch y ffurflen gais.  
  • Bydd y tîm yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi. 

Bydd rhai cyfleoedd i wirfoddoli’n darparu hyfforddiant sy'n arwain at gymwysterau.

Efallai y bydd angen gwiriad GDG ar rai, ond bydd timau'n gallu cynghori ynglŷn â hyn.

Mae darparu cyfleoedd gwirfoddoli’n un o'r ffyrdd y mae'r cyngor yn gweithio'n agosach gyda chymunedau lleol i wella llesiant a gwytnwch.

Os hoffech drafod cyfleoedd gwirfoddoli newydd yn eich cymuned, cysylltwch â ni trwy volunteering@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/01/2026 Nôl i’r Brig