CYBI Torfaen
 Rydym yn un o 30 Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ar draws y DU a'r ail un yng Nghymru.
Rydym yn un o 30 Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ar draws y DU a'r ail un yng Nghymru. 
Mae CYBI Torfaen yn rhan o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, sy’n cael ei letya gan Gyngor Torfaen.  
Bydd y tîm yn cynnal ymchwil a gwaith dadansoddi data helaeth, er mwyn deall pam fod gan rai pobl a chymunedau yn Nhorfaen iechyd meddwl a chorfforol gwael, a beth y gellir ei wneud i wella hynny. 
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y tîm yn: 
- Defnyddio ymchwil a thystiolaeth i wneud penderfyniadau 
- Cynnwys pobl leol mewn blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i iechyd 
- Cysylltu data â phenderfyniadau strategol 
- Rhannu’r dysgu 
- Gwerthuso effaith ac ymyriadau 
Mae CYBI Torfaen yn bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen, Prifysgol De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â HDRC@torfaen.gov.uk  
Beth yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal? 
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal yn ariannu ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol sy'n arwain y byd ac sy'n gwella iechyd a lles pobl ac yn hyrwyddo twf economaidd, ac mae’n galluogi ymchwil o’r fath ac yn ei ddarparu.  
Mae NIHR wedi dyfarnu £150m i 30 CYBI ar draws y DU. Nod y cyllid hwn yw rhoi’r capasiti a’r gallu i awdurdodau lleol i ymgymryd ag ymchwil i iechyd y cyhoedd, er mwyn mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd ac anghydraddoldebau iechyd. 
Tîm Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Torfaen

Rhes gefn, o'r chwith i'r dde:  Jordan Everitt (Cymrawd Ymchwil), Gareth Cooke (Pennaeth CYBI Torfaen), Rhiannon Bennett (Dylunydd Ymyrraeth).
Rhes ganol, o'r chwith i'r dde: Simon Read (Uwch Gymrawd Ymchwil), Hannah Wixcey (Cymrawd Ymchwil), Louise Davies (Gweinyddwr y Rhaglen)
Rhes waelod, o'r chwith i'r dde: Matthew Davies (Rheolwr Y Rhaglen), Sophie Griffiths (Swyddog Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Gymuned), Amy Murray (Uwch Gymrawd Ymchwil)
 
 
   
 
 Diwygiwyd Diwethaf: 02/09/2025 
 Nôl i’r Brig